A ddylid cael gwared â'r enw 'Wales' ar Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Baner CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae deiseb sy'n galw am gael gwared ar yr enw 'Wales' ar Gymru wedi denu dros 10,000 o lofnodion.

Dyma'r trothwy sydd ei angen er mwyn i'r ddeiseb gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Nod y ddeiseb yw gwneud yr enw 'Cymru' yn swyddogol ar y wlad gan ddiddymu'r enw 'Wales'.

Ond mae yna rybudd am y "risgiau" posib o newid enw cenedl ar frand gwlad, gydag un ysgolhaig yn dweud bod newid enw lle yn "annilysu diwylliant pobl".

'Angen ystyried sawl ffactor'

Yn ôl Mari Stevens, ymgynghorydd marchnata a fu'n gyfrifol am farchnata Cymru fel brand yn rhyngwladol, mae angen ystyried sawl ffactor os yw gwlad o ddifri am newid i un enw.

Dywedodd: "Ma 'na risks tu ôl i newid brand o unrhyw fath wrth gwrs. Mae'n hollbwysig bod chi'n dod â'r gynulleidfa darged gyda chi, yn cynnwys y bobl sy'n byw yn y wlad a'r gynulleidfa ryngwladol," meddai.

"Ma 'na hefyd risgiau o safbwynt costau. Ma' newid brand gwlad yn amlwg yn mynd i fod yn gymhleth o safbwynt yr holl ddeunyddiau, yr holl arwyddion ac ati sydd gyda ni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mari Stevens bod angen ystyried sawl ffactor os yw gwlad o ddifri am newid i un enw

"Ond ar y llaw arall ma' 'na nifer o gyfleoedd ynghlwm â newid enw. Byddwn ni'n symleiddio pethe' i raddau helaeth - ma' cael un enw brand lot yn haws na chael dau.

"Ma' angen meddwl am bethe' fel y ffaith bod y farchnad yn chwilio, falle lot ohonyn nhw'n Saesneg, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ma' angen ailgyflwyno enw newydd, anghyfarwydd iddyn nhw."

Nid Cymru fyddai'r wlad gyntaf i wneud newid o'r fath.

Yn 2020, fe benderfynodd yr Iseldiroedd ollwng Holland am Netherlands, ac yn fwy diweddar aeth Twrci i Türkiye sef yr enw yn yr iaith frodorol.

Mae rhai gwledydd yn penderfynu newid eu henwau am resymau gwleidyddol gan gynnwys Gogledd Macedonia i Macedonia, Persia i Iran, Siam i Thailand a Rhodesia i Zimbabwe.

Yma yng Nghymru mae mannau fel Bannau Brycheiniog ac Eryri wedi newid i ddefnyddio enwau Cymraeg eu hiaith.

'Annilysu diwylliant'

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, fod y "berthynas rhwng y ddau enw yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ers canrifoedd maith".

"Ma' 'na beryg, dwi'n meddwl, os 'dach chi'n diddymu enwau eich bod yn annilysu diwylliant pobl."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Dylan Foster Evans fod y "berthynas rhwng y ddau enw yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ers canrifoedd maith"

Ychwanegodd Dr Foster Evans bod "Wales yn d'eud rhywbeth amdanon ni fel Cymry".

"Mae'r enw Cymru yn deud rhywbeth gwahanol. Ystyr yr enw yna ydy cydwladwyr, pobl sy'n byw yn yr un fro - ma' hynny'n deud un peth amdana' ni," meddai.

"Mae'r enw Wales yn deud rhywbeth ynglŷn â'n perthynas ni â hanes ymerodraeth Rhufain."

Dywedodd fod mwy o ddefnydd ar yr enw Cymru eisoes yn digwydd mewn mudiadau megis y Gymdeithas Bêl-droed.