Parc Cenedlaethol y Bannau i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig
- Cyhoeddwyd
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio'i enw Cymraeg yn unig yn y dyfodol.
Daw'r newid - oddi wrth Brecon Beacons National Park - wrth i'r sefydliad nodi ei 66 mlwyddiant.
Yn ôl penaethiaid y parc mae'n gam fydd yn dathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Mae'n rhan o strategaeth newydd ar gyfer dyfodol y parc, sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau amgylcheddol difrifol.
Ond mae'r AS Ceidwadol lleol wedi cwestiynu'r newid gan ddweud na chafodd wybod ymlaen llaw am y cynlluniau.
Bwriad y cynllun rheoli newydd yw ceisio atal y dirywiad mewn rhywogaethau bywyd gwyllt ar draws y parc erbyn 2030, a chyrraedd targed sero net o ran allyriadau carbon erbyn 2035.
Bydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i blannu miliwn o goed, adfer 16,000 hectar o fawndir sydd wedi'i ddifrodi, adeiladu cynlluniau ynni gwyrdd a gwella trafnidiaeth gyhoeddus.
'Amser da i ailafael yn yr hen enw'
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gorchuddio oddeutu 520 milltir sgwâr o dde a chanolbarth Cymru ac yn denu pedair miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.
Yn agos at galon cerddwyr mynydd, mae wedi'i ddynodi hefyd yn warchodfa awyr dywyll ryngwladol, tra bod cymuned lofaol Blaenafon wedi ennill statws treftadaeth fyd-eang UNESCO.
Wrth ystyried defnyddio enw Cymraeg y parc yn unig yn y dyfodol, dywedodd yr awdurdod mai ond rhan fach o ddaearyddiaeth yr ardal oedd mynyddoedd y Bannau - the Brecon Beacons.
Roedd ffiniau tiriogaeth canol oesol Brycheiniog yn fwy addas, medden nhw.
"Roedd hi just yn teimlo fel amser da i ailafael yn yr hen enw am yr ardal. Mae'n efelychu ein ymrwymiad ni i'r iaith Gymraeg," eglurodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Catherine Mealing-Jones.
"Ond ry'n ni'n deall bod pobl yn gyfarwydd â galw'r parc wrth yr enw y maen nhw wedi'i ddefnyddio ers 66 o flynyddoedd, felly [dydyn ni] ddim yn disgwyl i bawb newid yn syth."
Dyma fydd yr ail barc cenedlaethol i hawlio enw Cymraeg yn unig, yn dilyn penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y llynedd.
Ond mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi dweud y byddan nhw'n parhau i ddefnyddio enw Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, o ystyried "natur ddwyieithog" cymunedau'r ardal.
'Cymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg?'
Ond fe gwestiynodd Fay Jones, Aelod Seneddol Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed y penderfyniad i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig.
"Dw i'n credu fod nifer o bobl wedi eu synnu rywfaint gan y penderfyniad," dywedodd.
"Mae unrhyw beth sy'n gwella amlygrwydd byd-eang Bannau Brycheiniog a chanolbarth Cymru i'w groesawu'n gynnes ond dw i'n meddwl y gallai'r parc cenedlaethol fod wedi gwneud hyn yn well trwy gynnwys cymunedau.
"Mae pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y parc cenedlaethol yn falch iawn o'r ffaith eu bod yn byw yng Nghymru ac eisiau dathlu diwylliant Cymreig.
"Ond pam ddim defnyddio'r enw Cymraeg ochr yn ochr â'r enw Saesneg?"
Fe ychwanegodd ei bod wedi derbyn negeseuon gan bobl a pherchnogion busnes sy'n gofidio am beidio bod yn rhan o ymgynghoriad ar y newid.
Mewn ymateb i sylwadau Fay Jones, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol eu bod wedi trafod dros ddwy flynedd "gyda gwirfoddolwyr, trigolion, ymwelwyr a busnesau ynghylch ein hunaniaeth a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Barc Cenedlaethol".
"Fe benderfynwyd ar y newid ar sail adborth gan banel rhanddeiliaid, cynulliad y bobl a phroses ymgynghori ar y brand," meddai llefarydd.
"Byddwn ni'n cyfeirio at ein corff a thirlun fel Bannau Brycheiniog, ond nid ydym yn disgwyl i bawb arall i'w ddefnyddio, o leiaf nid yn syth.
"Rydym eisiau i'r dathliad yma o'n hiaith a threftadaeth gael effaith bositif ar dwristiaeth a'r diwylliant lleol."
Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, fodd bynnag, wedi croesawu'r penderfyniad i ddefnyddio enw Cymraeg y parc yn unig.
"Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson ar y llywodraeth i warchod enwau lleoedd Cymraeg yn y gyfraith, ac mae'r penderfyniad hwn gan y Parc Cenedlaethol yn gam cadarnhaol o ran normaleiddio defnydd o'r Gymraeg," meddai llefarydd y blaid dros y Gymraeg, Heledd Fychan AS.
"Wrth adennill ein henwau Cymraeg gwreiddiol, gallwn adennill ein treftadaeth, sy'n hanfodol os ydym am i'n iaith barhau i chwarae rhan yn nyfodol Cymru."
Cynllun rheoli newydd
Un rhan o ail-lansiad y parc yw'r newyddion ynglŷn â'i enw.
Prif fwriad y cynllun rheoli newydd yw mynd i'r afael â heriau dybryd yn ymwneud â'r amgylchedd yn benodol.
Yn ôl adroddiadau diweddar dim ond 10% o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSIs) sy'n cael eu rheoli'n addas, gydag ond 44% o ardaloedd cadwraeth arbennig (SACs) mewn cyflwr da.
Mae niferoedd adar ffermdir wedi dirywio 30% ers y 1970au.
O ran ansawdd dŵr, mae 67% o ddyfroedd yn nalgylch Afon Gwy ac 88% yn nalgylch y Wysg yn methu targedau llygredd ffosfforws.
"Ry'n ni wedi colli'r cydbwysedd rhwng pobl a natur a hinsawdd," meddai Ms Mealing-Jones.
"Felly wrth galon y cynllun newydd mae dyhead i newid hynny - i gyrraedd sefyllfa lle gallwn ni gael cymunedau ffyniannus ond sy'n byw o fewn yr adnoddau naturiol sydd ar gael."
Mae'r cynllun yn cynnig nifer o brosiectau ar y cyd â chyrff eraill i hybu bioamrywiaeth a chyfrannu at atal newid hinsawdd.
Mae'r rhain yn cynnwys creu coridorau bywyd gwyllt i gysylltu cynefinoedd, a gwaith i gyrraedd ansawdd dŵr nofio ar draws pob afon.
Mae 'na addewid i blannu miliwn o goed, ac adfer 16,000 hectar o fawndir.
Yn ôl y swyddog prosiectau mawn, Sam Ridge, fe fyddai hyn yn helpu gyda nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys amsugno a storio carbon tra'n helpu rheoli llif dŵr ac atal llifogydd.
"Mae mawndir iach, sy'n gweithio'n dda hefyd, yn cynyddu bioamrywiaeth gan ddarparu cynefin ar gyfer rhywogaethau prin ailsefydlu, gan gynnwys adar fel y gylfinir a'r cwtiaid aur," meddai.
Bydd opsiynau ar gyfer trafnidiaeth gwyrdd yn cynnwys prosiectau peilot parcio a theithio rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu.
Mae'r gallu i gymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd yn "gyfyngedig iawn", medd yr awdurdod, gydag ond un siwrne bws yn bosib ar ôl 17:00 i'r rhan fwyaf o ganolfannau cyflogaeth mawr.
Bydd ffocws ar fwyd lleol hefyd yn arwain at hybu mwy o ffermio garddwriaeth - tyfu llysiau a ffrwythau - o fewn y parc.
Fe allai arwain at newidiadau i'r tirlun, fel a welir mewn cyfres o ddarluniau yn y cynllun sy'n proffwydo sut olwg fydd ar y parc erbyn 2050.
'Dod â'r cydbwysedd yn ôl'
"Mae 'na dal i fod defaid a gwartheg yn pori ar y bryniau, a'r holl bethau sy'n ganolog i'r hyn fyddech chi'n dychmygu o'r math yma o dirwedd," meddai Ms Mealing-Jones.
"Ond mae 'na fwy o arddwriaeth yn digwydd, gwinllannau, ffynonellau ynni glan. Ry'n ni'n dal ac yn storio mwy o garbon drwy ein mawndiroedd, ac mae bioamrywiaeth yn dechrau dychwelyd.
"Mae lot fawr o dir y parc yn nwylo perchnogion preifat, felly bydd rhaid i ni weithio mewn partneriaeth gyda phawb i edrych yn fanwl ar sut mae angen i'r tirlun newid er mwyn dod â'r cydbwysedd yna yn ôl."
Os yw'r cynlluniau'n gweithio, mae'n rhagweld y gallai fod yn "enghraifft ar gyfer parciau cenedlaethol eraill i'w dilyn".
Mewn ymgynghoriadau, roedd rhai wedi annog y parc i fynd ymhellach i hybu tirwedd fwy gwyllt.
Ond roedd cyrff amaethyddol wedi rhybuddio bod y weledigaeth yn hynod uchelgeisiol yn barod.
Dywedodd Stella Owen, ymgynghorydd sirol NFU Cymru yn yr ardal, bod hi'n bwysig bod y parc yn cael ei roi "ar bedestal".
Ond mae'n rhaid, meddai, i ffermwyr lleol allu "rhedeg busnesau, a bod yn broffidiol, er mwyn parhau yn y cymunedau gwych, ffyniannus hyn - a delifro o ran yr iaith Gymraeg, diwylliant a'r elfen gymdeithasol".
Fe ychwanegodd ei bod hi'n teimlo'n galonogol o ran y pwyslais ar fwyd lleol yn y cynllun, ond bod ganddi bryderon am y miliwn o goed yn benodol.
"Mae 'na lot o dir fferm cynhyrchiol yn y parc," meddai.
"Bydd angen ystyried yn ofalus iawn sut maen nhw'n adeiladu'r miliwn o goed yma i mewn a sicrhau nad yw hynny'n cael ei orfodi ar bobl."
Mae'r parc wedi cynhyrchu ffilm fer yn egluro'r newidiadau, gyda'r actor Michael Sheen yn cyflwyno.
Dywedodd yntau ei fod yn croesawu'r ffaith bod y parc yn "ailafael yn yr hen enw Cymraeg - hen enw am ffordd newydd o fod".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022