Lleihau cymorth busnes fydd 'ergyd farwol' bwytai a bariau

  • Cyhoeddwyd
Simon Wright
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Wright, sydd â 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant lletygarwch, bod y sefyllfa "gyda'r gwaethaf" mae wedi eu hwynebu

Mae'r cyfnod presennol i fwytai a thafarndai "gyda'r gwaethaf" mae un sydd yn y diwydiant ers 35 mlynedd yn cofio, ac fe fydd mwy o fusnesau'n cau heb gymorth.

Mae perchennog bwyty Wright's yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl cynlluniau i leihau'r cymorth ariannol i fusnesau bach gyda threthi busnes. 

Yn ôl Simon Wright, sydd hefyd yn awdur a darlledwr blaenllaw ar fwyd, mi fydd mwy o gaffis, tafarndai a bwytai yn mynd i'r wal heb dro pedol.

Yn y gyllideb ddraft ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd y byddai'r gostyngiad sydd ar gael i drethi busnesau yn lleihau o 75% i 40%, gyda chynnydd cyffredinol o 5% mewn trethi. 

Yn Lloegr mae'r gostyngiad ar drethi busnes yn parhau i fod yn 75%.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n darparu £134m o gymorth gyda threthi busnes y flwyddyn nesaf, ar ben pecyn craidd parhaol o £250m y flwyddyn i leihau trethi busnes.

'Ergyd farwol i rai'

Yn ôl corff UK Hospitality, mi allai'r gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad olygu y bydd tafarn neu fwyty gyffredin yng Nghymru yn talu £6,800 yn fwy mewn trethi na busnes debyg yn Lloegr.

Yn ystod dyddiau cyntaf 2024, mae nifer o dafarndai a bwytai yng Nghaerdydd - gan gynnwys tafarn y Conway, dwy o ganghennau popty Alex Gooch, y Brass Beetle yn yr Eglwys Newydd ynghyd â bwyty Kindle - wedi cadarnhau na fyddan nhw yn ailagor oherwydd cynnydd mewn costau a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant lletygarwch.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd lleihau cymorth ar drethi busnes yn "ergyd farwol" i rai, meddai perchennog Wright's yn Llanarthne

Dywedodd Simon Wright, sydd â 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant lletygarwch, bod y sefyllfa "gyda'r gwaethaf" iddo gofio, gyda busnesau yn wynebu "storm berffaith". 

"Mae 'da ni sgil-effeithiau Covid, a'r ddyled o'r cyfnod hwnnw," meddai.

"Mae yna gynnydd aruthrol wedi bod ym mhrisiau ynni. Mae ein prisiau ynni ni wedi dwblu.

"Mae e nawr yn un o'r costau mawr fel morgais ne rhent. Cyn Nadolig, fe ddaeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru nad oedden nhw yn mynd i efelychu penderfyniad Lloegr i gadw'r gostyngiad ar drethi busnes i 75%, ac mae honno yn ergyd fawr.

"Mae hynny gyfystyr â miloedd o bunnau pan mae'n anodd gwneud unrhyw elw. Does dim amheuaeth gen i, dyna fydd yr ergyd farwol i rai busnesau."

'Beth allwn ni wneud?'

Yn ôl rheolwr Gwesty Glanfa Teifi ger Llandudoch, Llyr Evans, dyma'r cyfnod anoddaf mae'n cofio ar ôl 20 mlynedd yn y diwydiant.

"Yr wythnos ddiwethaf, roedd yna gyfarfodydd rhwng y perchennog a finne ar shwd i dorri lawr ar gostau.

"Mae costau electric yn codi, costau dŵr yn codi, y rates yn codi, wages yn codi. Beth allwn ni wneud?

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llyr Evans, dyma'r cyfnod anoddaf mae'n cofio ar ôl 20 mlynedd yn y diwydiant

"Codi prisiau neu torri lawr. Mae'n benbleth sa'i wedi gweld ar ôl ugain mlynedd yn y trade. Ni'n edrych nawr ar gau un diwrnod yr wythnos.

"Mae hi'n mynd i fod yn flwyddyn galed, dwi'n meddwl."

Mae Simon Wright wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau yn y gyllideb ddraft.

"Os ydych chi yn codi arian gan fusnesau, yna mae'n rhaid iddyn nhw fodoli. Mae bob busnes sydd yn methu yn golygu nad yw nhw yn talu treth ar werth, sydd yn ddegau o filoedd o bunnau, a dyw nhw ddim yn cyflogi pobl.

"Mae'r costau yn llawer uwch na'r arbedion o ran gwariant. Chi ddim yn tyfu economi drwy wneud beth ni'n gwneud ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy'n meddwl y bydd rhaid iddynt ailfeddwl."

Mae Llyr Evans hefyd wedi galw ar y llywodraeth i ailystyried.

"Mae eisiau iddyn nhw feddwl yn galed iawn cyn bod nhw'n gwneud hyn. Mae Lloegr yn cadw ei hunan lan i 75%.

"Os nag yw nhw'n watcho, bydd dim hospitality trade gyda nhw. Mae eisiau iddyn nhw gadw fe ar yr un lefel a Lloegr ac edrych ar ôl y busnesau bach hyn.

"Gobeithio byddan nhw yn gweld sense ac ailfeddwl am y decision maen nhw wedi gwneud."

'Y gefnogaeth fwyaf bosib'

Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n rhoi £134m o gefnogaeth ariannol ar ben cynllun parhaol gwerth £250m i leihau trethi busnes.

"Diolch i'r system hael o gymorth, dyw bron hanner trethdalwyr, gan gynnwys busnesau bach ar draws Cymru, ddim yn talu unrhyw drethu o gwbl.

"Rydym yn darparu pumed flwyddyn o gymorth gyda threthi i siopau, hamdden a lletygarwch ar gost o £78m. Mae hyn yn adeiladu ar £1bn o gymorth i'r sectorau hyn ers 2020/21.

"Fe fydd cronfa cyfalaf newydd, gwerth £20m yn cael ei datblygu yn 2024/25 i gynorthwyo siopau, hamdden a lletygarwch i baratoi am y dyfodol. 

"Rydym wedi penderfynu cadw'r cynnydd ar gyfer y lluosydd ardrethi anomestig i 5% ar gyfer 2024/25, sydd yn mynd i gostio £18m yn flynyddol i'r gyllideb Gymreig.

"Dyma'r gefnogaeth fwyaf oedd yn bosib i roi yn sgil datganiad y Canghellor yn yr Hydref."