Gobeithio sefydlu cymdeithas lefaru i 'warchod' y grefft

  • Cyhoeddwyd
BBC

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal fore Sadwrn yn Aberystwyth gyda'r gobaith o sefydlu cymdeithas i "warchod y grefft" o lefaru.

Mae cymdeithasau Cerdd Dant, Alawon Gwerin a Dawnsio Gwerin eisoes yn bodoli.

Er bod Cymdeithas Lefaru ac Adrodd wedi bodoli yn yr 80au fe ddaeth y gymdeithas honno i ben, ac mae criw newydd yn gobeithio ail gynnau'r fflam.

Fe gafodd y syniad ei blannu yn ystod sesiwn ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 i gofio am un o hoelion wyth y byd llefaru, Madge Hughes.

Angen 'gwarchod y grefft'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, dywedodd Cefin Roberts, un o drefnwyr y cyfarfod, fod "nifer ohonom wedi dod at ein gilydd a sylweddoli bod angen 'neud mwy o sylw i lefaru a gwarchod y grefft ac edrych sut fedrwn ni ddatblygu'r grefft ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd bod y cyfarfod yn un "pwysig" a fydd yn "gosod sylfaeni'r gymdeithas".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cefin Roberts yn un o'r criw fydd yn ceisio sefydlu Cymdeithas Lefaru newydd

Aeth ymlaen i ddweud y gallai'r gymdeithas newydd "gynnig arweiniad, cynnig hyfforddiant... ond yn fwy na hynny edrych ar lefaru ar hyd y sbectrwm".

"Fel mae'r grefft o ganu yn gallu arwain rhai pobl i broffesiynoldeb ar lwyfan, y medar y grefft yma o lefaru arwain i hyfforddi actorion, gwleidyddion, cyfreithwyr, athrawon y dyfodol".

Ychwanegodd: "Ein bod ni'n edrych arno fo yn eang iawn a datblygu'r grefft i'r dyfodol, ei gwarchod hi hefyd."

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth fore Sadwrn.

Un sydd wedi bod yn troedio llwyfannau Cymru ers yn ifanc, ac wedi ennill Y Rhuban Glas Ieuenctid am lefaru unigol oed yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 yw Elan Jones o Lanbedr Pont Steffan.

Mae hithau o'r farn bod sefydlu cymdeithas lefaru yn "syniad gwych".

"Fel un sydd wedi bod yn cystadlu ers yn ifanc, byddai cael cymdeithas i gynnal digwyddiadau a chadw'r grefft o lefaru yn fyw yn syniad gwych."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Elan Jones cystadleuaeth Y Rhuban Glas Ieuenctid: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed yn Eisteddfod Genedlaethol 2023

Ychwanegodd bod "llefaru mewn cystadlaethau ac Eisteddfodau yn sicrhau bod barddoniaeth a rhyddiaith o Gymru sy'n rhan o'n diwylliant yn cael platfform cyhoeddus".

"Nid yn unig mae llefaru yn magu hyder ond hefyd yn datblygu'n deallusrwydd ni fel unigolion o hanes Cymru."

'Ni 'di bod yn llusgo'n traed'

Un arall sydd wedi bod ynghlwm â'r byd llefaru ers blynyddoedd yw Sian Teifi. Roedd hi'n aelod o'r gymdeithas oedd yn bodoli yn yr 80au.

Hi hefyd oedd cadeirydd pwyllgor llefaru lleol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Fe soniodd bod cymdeithasau eisoes yn bodoli ar gyfer "cerdd dant, alawon gwerin, dawnsio gwerin, ni 'di bod yn llusgo'n traed, mae'n hen bryd i ni sefydlu ein cymdeithas ein hunain".

Ei gobaith yw bydd y gymdeithas yn medru "trafod y grefft a'i gwarchod".

Aeth ati i sôn bod llefaru yn rhan o fywydau pawb, a bod angen "cadw llygaid ar sut ma' llefaredd yn cael ei ddefnyddio, ry' ni'n llefaru, pobl sy'n darllen newyddion, gwneud cyhoeddiadau, pregethwyr, actorion".

"Mond bo' ni'n neud yn saff bod y llefaru'n saff ac yn glir ac yn dweud y stori."

Pynciau cysylltiedig