Cymru Premier: Y Cofis yn sicrhau safle chwech uchaf
- Cyhoeddwyd
Mae Caernarfon wedi sicrhau eu lle ymysg y chwech uchaf yn y Cymru Premier yn dilyn gêm gyfartal yn y brifddinas.
Yn y rownd ddiwethaf o gemau cyn i'r gynghrair hollti'n ddau, roedd pwynt yn erbyn Met Caerdydd yn ddigon i dîm Richard Davies sicrhau'r chweched safle.
Wedi i Adam Davies roi'r Cofis ar y blaen wedi naw munud yn erbyn Met, tarodd y myfyrwyr yn ôl gyda goliau gan Emlyn Lewis ac Eliot Evans.
Ond daeth y gôl hollbwysig gan Danny Gosset gydag ond tair munud yn weddill.
Roedd Caernarfon angen buddugoliaeth i fod yn hollol sicr, ond methodd Hwlffordd â'u hamddifadu o'u lle yn yr hanner uchaf.
Mae hynny'n gwarantu lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cyngres Europa ar ddiwedd y tymor.
Canlyniadau:
Aberystwyth 2-4 Y Barri
Bae Colwyn 2-3 Pontypridd
Hwlffordd 2-3 Y Bala
Penybont 0-1 Cei Connah
Met Caerdydd 2-2 Caernarfon
Y Seintiau Newydd 3-1 Y Drenewydd