Cynghorau i wynebu 'cyfnod hynod o anodd'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr cynghorau ar draws Cymru yn rhybuddio bod heriau ar y gorwel wrth iddynt wynebu toriadau i'w cyllidebau.
Mae toriadau i wasanaethau, colli swyddi a chynnydd yn y dreth gyngor ar y gweill wrth i gynghorau ledled Cymru geisio roi trefn ar eu cyllidebau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, wrth Politics Wales, y byddai angen codi treth y cyngor 35-40% er mwyn osgoi toriadau.
Cwtogi swyddi yn 'gwbl' bosib
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan nad yw'r cynnydd o 3.1% yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei glustnodi ar gyfer llywodraeth leol "yn agos i'r hyn sydd ei angen i gynnal gwasanaethau cymdeithasol, ac ysgolion".
Ychwanegodd fod cwtogi swyddi yn "gwbl" bosib a bydd yn rhaid i gynghorau wneud toriadau i wasanaethau.
"Os bydd gofyn i ni gynyddu ein cefnogaeth i wasanaethau cymdeithasol ac addysg - sy'n cwmpasu tua 70% o'r gyllideb yn fy awdurdod lleol i - mae hynny'n golygu y byddai pethau fel cyflwr ein ffyrdd, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn dioddef, dyna'r unig feysydd y gallwch chi wasgu arian ohonyn nhw, neu fel arall rydych yn codi treth y cyngor i lefel anfforddiadwy."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei bod yn "edrych ar draws yr holl wasanaethau" er mwyn gwneud toriadau.
Dywedodd Llinos Medi fod y galw am ofal cymdeithasol, yn benodol, wedi codi'n sylweddol ers Covid.
Dywedodd: "Mae cymlethdodau wedi codi o fewn gwasanaethau plant, iechyd meddwl a phobl hŷn gyda gofal mwy penodol" yn ogystal ag anawsterau i ddod o hyd i weithlu priodol.
"Y plant yw ein dyfodol ac ar hyn o bryd allwn ni ddim rhoi'r hyn sydd ei angen arnyn nhw a dyw hynny ddim yn lle braf i unrhyw un ohonom ni fod ynddo."
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi hefyd nad yw hi "yn beio'r cyhoedd am fod yn flin gyda ni", ond dywedodd ei bod yn teimlo ei bod yn "byped ar linyn rhywun arall" wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno toriadau i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru wedyn basio'r toriadau hynny ymlaen i'r awdurdodau lleol.
Dywedodd mai arweinwyr y cynghorau fydd yn gorfod "wynebu'r cyhoedd yn gyffredinol".
Dywedodd llefarydd y Blaid Geidwadol ar lywodraeth leol, Sam Rowlands AS, fod hyn yn "fater o wrthod cyfrifoldebau.
"Mae'r Llywodraeth yn gwthio'r cyfrifoldeb o wneud penderfyniadau anodd iawn i gyfeiriad cynghorwyr lleol."
Ond fe amddiffynnodd setliad cyllid llywodraeth y DU i Gymru, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael "y lefel uchaf erioed o gyllid eto gan Lywodraeth y DU yn y gyllideb ddiweddaraf".
Ychwanegodd mai ''mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae nhw'n gwario'r arian hwnnw.''
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023