Caerdydd: 'Potensial' i e-sgwteri gymryd lle cynllun Nextbike

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dafydd Trystan: E-sgwteri yn declynnau "bach, hwylus a hyblyg"

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau llogi beics ac e-sgwteri newydd i gymryd lle cynllun poblogaidd Nexbike.

Fe gyhoeddodd cwmni llogi beics NextBike fod y cynllun yn dod i ben yn y brifddinas a Bro Morgannwg ym mis Ionawr.

Dywedodd y cwmni fod 3,000 o feics wedi diflannu neu gael eu difrodi yn yr ardal ers i'r cynllun gael ei lansio yn 2018.

Roedd y cynllun yn boblogaidd gyda'r beics wedi'u rhentu dwy filiwn o weithiau mewn pum mlynedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn "edrych ar feics ac e-sgwteri drwy ein hymchwil marchnad ar gynllun newydd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cwmni Nextbike bod 3,000 o feics wedi diflannu neu eu difrodi yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ers 2018

Ar hyn o bryd mae defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon, ac eithrio mannau lle mae cynlluniau i'w treialu yn digwydd.

Nid oes unrhyw le yng Nghymru wedi treialu'r defnydd o e-sgwteri eto, er bod sawl man yn Lloegr wedi gwneud hynny, gan gynnwys Bryste.

'Ffradach ym Mharis'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, Dafydd Trystan bod yna botensial i gael cynllun e-sgwteri yng Nghymru ond bod angen cynnal cynllun peilot.

Fe ddisgrifiodd yr e-sgwteri fel teclynnau "bach, hwylus a hyblyg" ac "o'u cynllunio nhw'n iawn a chynllunio'r rhwydwaith yn iawn, ma' nhw'n gallu bod yn rhan o'r ateb".

Wrth drafod y problemau y cafwyd gyda'r cynllun llogi beics, dywedodd fod angen "cynllun sy'n gadarn iawn o ran yr huro, y broses huro rhwng yr unigolyn a'r cwmni a chyfrifoldeb yr unigolyn dros ofalu amdanyn nhw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o orsafoedd beics Nextbike ar hyd a lled Caerdydd - fel yr un yma yn ardal Pontcanna - bellach yn wag

Mae cynllun e-sgwteri yn bodoli'n llwyddiannus mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, ond mae'r cynllun wedi cymryd cam yn ôl ym Mharis yn sgil problemau am ddiogelwch y teclynnau.

I osgoi hyn i ddigwydd yng Nghymru, dywedodd Mr Trystan bod angen "gofal a chynllunio er mwyn sicrhau nad yw'n troi yn ffradach fel ym Mharis".

"Mae 'na botensial mawr iddyn nhw oherwydd eu bod yn hwylus, cymharol rad, cymharol hawdd," ychwanegodd.

Gyda chanolfan fysiau ar fin agor yng Nghaerdydd, dywedodd: "Ni angen bysus call, trenau call, ma' angen e-sgwteri, e-feiciau a chyfleoedd gwell i bobl gerdded a seiclo, ma' angen pob un o'r rheiny os ry'n ni am wneud y shifft sylweddol yna sydd ei angen fel ry'n ni wedi gweld mewn dinasoedd Ewropeaidd llewyrchus."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn edrych ar "feics ac e-sgwteri drwy ein hymchwil marchnad ar gynllun newydd nawr bod Nextbike yn gadael Caerdydd".

Ychwanegodd y bydd hyn ond yn bosib os yw'r "ymchwil yn dangos bod e-sgwteri a beiciau yn opsiwn ymarferol yng Nghaerdydd".

"Mae'n bwysig nodi nad oes unrhyw ddarpariaeth ar hyn o bryd yn y rheoliadau traffig presennol i ganiatáu defnyddio e-sgwteri ar y brif ffordd."

Pynciau cysylltiedig