Pobl Pencader yn falch o'u cysylltiad â Burkina Faso

  • Cyhoeddwyd
plant ysgol Burkina FasoFfynhonnell y llun, Coda Ni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol y mae ardal Pencader yn ei chefnogi wedi gorfod cau am y tro oherwydd y sefyllfa beryglus yn Burkina Faso

Mae pobl ardal Pencader yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod eu cysylltiad â gwlad dlawd yn Affrica wedi cyfoethogi eu bywyd.

Ers blynyddoedd bellach mae'r ardal wedi bod yn codi miloedd o arian i amrywiol brosiectau yn Burkina Faso, ac mae nifer wedi ymweld â'r wlad drwy gynllun Cristnogol 'Coda Ni'.

Rhan o ranbarth y Sahel yng ngorllewin Affrica yw Burkina Faso - rhanbarth sy'n ymestyn i wledydd Mali a Niger.

Mae oddeutu 64% o'r boblogaeth yn Fwslimiaid, 9% yn ddilynwyr crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 26% yn Gristnogion (20% yn Gatholigion a 6% yn Brotestaniaid).

Eleni, Cristnogion Burkina Faso sydd wedi paratoi y deunyddiau ar gyfer yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol (18-25 Ionawr).

Fe ddechreuodd cysylltiad ardal Pencader â'r wlad drwy gwmni Cadwyn, Ffred Ffransis - cwmni sy'n gwerthu nwyddau Cymreig a masnach deg, ac mae ef yn un o'r rhai sydd wedi ymweld â'r wlad droeon.

Pencader

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei bod wedi bod yn fraint "cefnogi cymunedau bregus a newynog ar gyrion y Sahara" a bod yr ysgolion lleol hefyd wedi mwynhau codi arian.

Ymhlith y prosiectau mae'r ardal wedi'u cefnogi drwy Coda Ni (ac ar y dechrau gydag elusen Cymorth Cristnogol) mae codi storfeydd grawn wedi i Burkina Faso gael llifogydd sydyn.

Maen nhw hefyd wedi codi arian at ffynhonnau dŵr, hadau newydd ar gyfer tir tywodlyd "a'r hyn ry'n yn hynod o falch o roi cefnogaeth iddi yw'r ganolfan llythrennedd a sgiliau i ferched", ychwanegodd Mr Ffransis.

"Ry'n hefyd wedi cefnogi gwaith cenhadon, a ffermwyr lleol i fynd ar gwrs eco-amaeth er mwyn dod â sgiliau newydd nôl i'r ardal.

"Braint hefyd yw cefnogi un o ysgolion yr ardal - fe wnaethon ni dalu am ardd lysiau iddyn nhw.

"Dim ond bowlen o uwd millet y dydd roedd y plant yma yn ei gael."

'Rhoddion Cymru yn gwneud gwahaniaeth'

Un arall sydd wedi ymweld â'r ardal yw Fioled Jones o Bencader.

Wrth siarad yn Oedfa Radio Cymru ddydd Sul dywedodd: "Ein hamcan ar hyd yr amser yw codi pobl yn ei holl gyflawnder a phwrpas.

"Pan es i allan yna 'naethon ni gwrdd â chenhadon, gweinidogion, ffermwyr, crefftwyr a phlant ysgol a gweld shwt o'dd y rhoddion oedd wedi dod o Gymru yn ystod y blynyddau wedi 'neud cymaint o wahaniaeth.

"Mae'r cyfan wedi bod yn gyfle i gynnig help i'r bobl.

"Wrth helpu menywod gyda chyrsiau darllen a rhifedd, y canlyniad oedd eu bod yn gallu creu busnesi bach eu hunain ac roedd cefnogi cwrs coleg i amaethwyr yn sicrhau eu bod yn cael gwell canlyniadau o'r ffermio.

"Mae wastad wedi bod yn bwysig cyfleu'r neges nad ydyn ni wedi anghofio nhw.

"Pan es i allan 'nes i erioed feddwl y bydden i'n cael y fath wefr - roedd yna groeso arbennig gan y bobl yma, roedd eu diolchgarwch yn fawr ac ro'n nhw'n 'neud y gorau o'r ychydig o'dd 'da nhw i fyw o un dydd i'r llall - 'nath eu diolchgarwch nhw fwrw fi i 'weud y gwir."

Coda NiFfynhonnell y llun, Coda Ni
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coda Ni yn aml yn hel dillad at achosion da

Yn ddiweddar mae sefyllfa'r wlad wedi dirywio'n ddirfawr wrth iddi ddioddef mwy o ymosodiadau terfysgol, torcyfraith a masnachu pobl.

Mae miloedd wedi marw, dwy filiwn o bobl wedi'u dadleoli a miloedd o ysgolion, canolfannau iechyd a neuaddau trefi wedi cael eu cau.

Mae ymosodiadau arfog wedi targedu eglwysi Cristnogol yn benodol.

Yn sgil hynny mae mwyafrif o'r eglwysi Cristnogol yng ngogledd, dwyrain a gogledd-orllewin y wlad wedi cau a dyw Cristnogion bellach ddim yn gallu arfer eu ffydd yn agored.

"Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y gallwn ni fynd yna eto ond mae'n cysylltiad â'r wlad yn parhau yn ystod y cyfnod anodd hwn ac ry'n ni'n dal i'w cefnogi nhw," ychwanegodd Ffred Ffransis.

"Y neges ddiweddaraf gan yr ysgol ry'n yn ei chefnogi yw bod nhw wedi gorfod gadael eu hadeiladau parhaol. Mae'n sefyllfa echrydus."

Mae modd clywed mwy o brofiadau Fioled Jones yn Oedfa Radio Cymru am 12:00 ac yna ar Sounds.

Pynciau cysylltiedig