'Potensial aruthrol i ddatblygu technoleg iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na botensial "aruthrol" i dyfu a datblygu technoleg iechyd yng Nghymru yn ôl arbenigwr yn y diwydiant.
Yn ôl Dr Rhodri Griffiths o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru bydd hynny'n cynnig buddion economaidd ac iechyd, ac mae'r sector eisoes werth £2.8bn i economi Cymru.
Daw hynny wrth i gwmni sy'n cynhyrchu kefir yng ngorllewin Cymru lansio prawf microbiome ar y cyd gyda Phrifysgol Caergrawnt i brofi iechyd y perfedd.
Mae Chuckling Goat yn dweud bod modd gwneud y prawf o "breifatrwydd eich cartref wedi newid popeth", a'u bod am fod ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y diwydiant.
Fe ffurfiwyd y cwmni yn 2014, pan roedd pobl yn curo ar ddrws y fferm eifr yn eu gofal am ddatrysiadau ar gyfer gwahanol broblemau iechyd.
Yn ôl Elen Armstrong, cyfarwyddwr creadigol y cwmni, roedd Chucking Goat yn credu bod angen dod o hyd i ffordd wyddonol i ddarganfod pam roedd bobl yn wynebu rhai cyflyrau.
"'Naethon ni benderfynu 'neud y prawf achos o'dd pobl yn dod aton ni yn gweud bod problemau gwahanol gyda nhw - problemau cyflyrau croen, problemau IBS, IBD.
"Gyda'r prawf s'dim ishe ni guesso beth i 'neud nesa', neu beth sy'n mynd i helpu gwella eu hiechyd nhw."
'Gwella iechyd eich perfedd o'r diwrnod cyntaf'
Fe wnaeth y cwmni ym Mrynhoffnant yng Ngheredigion dreulio dwy flynedd a £250,000 yn datblygu'r prawf gyda Phrifysgol Caergrawnt.
"Ni'n archwilio popeth sy'n digwydd y tu mewn i'r microbiome, ac yn rhoi atebion i chi ynglŷn â sut y gallwch chi wella iechyd eich perfedd o'r diwrnod cyntaf," medd Shann Jones, cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr y cwmni.
"Ni mo'yn 'neud e mor syml â phosibl i bobl gymryd cyfrifoldeb am iechyd eu perfedd eu hunain a gwella eu hiechyd eu hunain.
"Dim ond yn ddiweddar ma'r dechnoleg wedi datblygu i'r pwynt lle gallwch chi neud y prawf yn eich cartref.
"Fe ddysgodd Covid i ni fod hynny'n gwbl angenrheidiol. Felly i gael y dechnoleg yma, fel bod modd neud e ym mhreifatrwydd eich cartref, mae hynny wedi newid popeth."
Mae sampl o garthion yn cael eu hanfon i labordai ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle mae Dr Anton Enright a'i dîm o wyddonwyr yn gweithio i ddarganfod pa facteria sydd yn byw yn ein perfedd.
"Mae gyda ni poo post box arbennig ar gyfer y profion," meddai Dr Enright.
"Maen nhw'n cyrraedd, ac mae'r tîm yn mynd trwy 20 neu 30 sampl i gyrraedd DNA y bacteria. Mae gyda ni wedyn ddau neu dri diwrnod arall ar gyfer ei baratoi i fynd ar y sequencer DNA.
"Ar y pwynt yna ry'n ni wedi gorffen gyda'r test tubes a ry'n ni'n cael dogfennau data gyda rhestrau o facteria a faint o weithiau ry'n ni di gweld y bacteria yn y sampl."
'Diddordeb ar gynnydd'
Mae'r data wedi yn cael ei ddefnyddio gan Chuckling Goat i benderfynu pa gynnyrch gallan nhw ei argymell i helpu eu cwsmeriaid gyda'u hiechyd.
Mae datblygiadau fel hyn yn dod ar adeg pan mae diddordeb y cyhoedd yn eu hiechyd ar gynnydd, medd Dr Rhodri Griffiths, cyfarwyddwr mabwysiadu arloesedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
"Yn sicr mae mwy o bobl wedi dod i 'nabod y dechnoleg," meddai.
"Erbyn hyn mae gan bron pawb ffôn symudol, ac wedi dod i arfer â defnyddio technoleg ddigidol.
"Mae'n cynnig potensial anferth i helpu'r maes fel bod ni'n gallu edrych ar ôl ein hunain yn well, yn gallu aros yn y cartref yn hirach, ac felly'n defnyddio llai ar y gwasanaethau o fewn ein hysbytai."
Nid yn unig iechyd y cyhoedd sy'n elwa. Mae 'na fudd economaidd hefyd, gyda'r diwydiant gwyddorau iechyd gwerth £2.8bn i economi Cymru yn 2022 yn ôl yr hwb.
"Jyst yn y maes diagnosteg, mae e'n faes sydd gwerth tua £40bn yn fyd eang, ond yn tyfu 10% i 15% bob blwyddyn, ac mae'n debygol y bydd hynny'n cyflymu hyd yn oed yn fwy," medd Dr Griffiths.
"Felly mae'r rhain yn feysydd sy'n cynnig potensial aruthrol er mwyn gwella'n iechyd, ond hefyd yn economaidd.
"Mae 'na botensial anferth i ddatblygu'r dechnoleg yma yng Nghymru, i ddefnyddio'r cryfderau mawr sydd ganddon ni yn y diwydiant yn barod, ac allforio'r syniadau a'r deunyddiau'n fyd eang."
'Gwneud rhywbeth mas o ddim byd'
10 mlynedd ers sefydlu cwmni Chuckling Goat, ac mae tipyn wedi newid ar y fferm fach 25 erw yn ôl cyd-gyfarwyddwr y cwmni Richard Jones, ac yn enghraifft o arallgyfeirio ar waith.
"Pan ddechreuon ni 'ma, doedd dim ceiniog gyda ni," meddai.
"O'dd rhaid i fi werthu'r motorbeic dwetha o'dd gyda fi - ma' hwnnw wedi hen fynd. Ond doedd dim ceiniog gyda ni.
"Ond mae yn bosib gwneud rhywbeth mas o ddim byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2017