Arestio dyn wedi tân difrifol mewn warws ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn mewn cysylltiad â thân difrifol mewn warws ar stad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr nos Wener.
Mae Gwasanaeth Tân De Cymru yn ymchwilio i beth achosodd y tân ar safle hen ffatri Sony UK.
Cafodd adeilad ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-Bont ei ddinistrio yn llwyr o fewn munudau wedi i'r tân ddechrau tua 20:30 nos Wener.
Mae dyn lleol 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a pheryglu bywyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod y dyn yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn y dref.
Dim anafiadau
Roedd yr adeilad a gafodd ei ddinistrio yn cael ei ddefnyddio gan gwmni Owens Group i storio nwyddau.
Dywedodd Huw Owen, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni bod pob aelod o'r staff wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddi-anaf.
"Mae'r tân wedi dinistrio stoc un o'n cwsmeriaid tymor hir ac ry'n ni yn gweithio yn agos gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu parhau i wasanaethu eu cwsmeriaid," meddai.
"Hoffem ddiolch o galon i'r timau brys wnaeth ateb yr alwad, yn enwedig y gwasanaeth tân wnaeth bopeth o fewn eu gallu i reoli'r fflamau."
Roedd rholiau papur cegin a phapur tŷ bach ymhlith y nwyddau a gafodd eu dinistrio.
Mae Owens Group hefyd yn ymddiheuro i'r holl fusnesau lleol ar y stad ddiwydiannol sydd wedi eu heffeithio gan y tân.
Roedd safle'r tân bron cymaint â phedwar cae pêl-droed.
'Clec anferth'
Cafodd pobl sy'n byw gerllaw eu cynghori i gadw eu ffenestri ynghau ac roedd strydoedd cyfagos ar gau am ran helaeth o ddydd Sadwrn.
Dywedodd un llygad dyst, Abby Bolter, wrth y BBC ei bod hi wedi clywed "clec anferth" cyn y tân.
"Fe glywais i bobl yn gweiddi. Ro'n i'n meddwl mai tân gwyllt oedd e, ond yna fe welais i'r tân," meddai.
Diolchodd Neil Davies o Wasanaeth Tân De Cymru i bob aelod o'r timau brys fu'n helpu ac i'r gymuned leol am eu cymorth.
"Fe fyddwn ni nawr yn cydweithio gyda Heddlu De Cymru i geisio darganfod beth achosodd y tân a sut y datblygodd e mor gyflym.
"Diolch i bawb am eu cymorth wrth i ni ddelio gyda'r digwyddiad yma a'n galluogi i ddiffodd y fflamau a sicrhau bod pawb yn ddiogel."