Y Bencampwriaeth: Plymouth Argyle 3-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ryan HardieFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Hardie yn dathlu ar ôl pnawn llewyrchus yn erbyn Caerdydd

Er mai Caerdydd sgoriodd gyntaf doedd yna ddim buddugoliaeth arall oddi cartref i fod i'r Adar Gleision.

Fe sgoriodd Ryan Hardie gôl ymhob hanner i sicrhau'r triphwynt i'r tîm o Ddyfnaint.

Roedd hi'n edrych yn obeithiol i'r ymwelwyr pan sgoriodd yr amddiffynnwr Perry Ng ar ôl 10 munud o gic gornel Ryan Wintle.

Er bod tîm Erol Bulut yn rheoli'r gêm am gyfnod fe fethon nhw â manteisio ar eu cyfleoedd.

Roedd Plymouth yn edrych yn dîm gwahanol ar ôl gôl gyntaf Hardie. Fe gafodd hi ei chreu gan Alfie Devine, y chwaraewr ifanc sydd ar fenthyg o Spurs.

Cafodd Devine gyfle cynnar i roi'r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Hardie sgorio eto funud yn ddiweddarach,

Er fod Plymouth yn cryfhau roedd yna gyfleoedd i Gaerdydd hefyd. Cafodd peniad Kion Etete ei glirio gan yr amddiffyn a llwyddodd Hazard i arbed ymdrechion gan Josh Bowler a Jamilu Collins.

Cafodd y pwyntiau eu sicrhau ar ôl 81 munud pan sgubodd Whittaker ei bymthegfed gôl y tymor hwn o groesiad Hardie.

Mae Plymouth yn codi i'r 15fed safle yn y bencampwriaeth, dim ond pedwar pwynt y tu ôl i Gaerdydd.