Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Nathaniel MG

  • Cyhoeddwyd
The New Saints playersFfynhonnell y llun, John Smith

Y Seintiau Newydd enillodd dlws cyntaf y tymor gyda buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn tîm dan-21 Abertawe.

Fe aeth y Seintiau ar y blaen ar ôl chwe munud. Fe arbedodd Mitchell ergyd o'r dde ond fe syrthiodd y bêl i lwybr Ryan Brobbel oedd yn agos at y postyn chwith i bigo'r briwsion.

Cyn bod yna 20 munud wedi ei chwarae roedd Brobbel yn ei chanol hi unwaith yn rhagor.

Fe geisiodd ergydio gyda'i gefn at y gôl ond glaniodd y bêl ar ben Josh Pask a'i gyffyrddiad yntau yn curo'r golgeidwad.

Roedd gobeithion Abertawe o ddod nôl i'r gêm yn pylu ar ôl 50 munud. Y dyn hwnnw Brobbel unwaith eto yn creu o'r asgell chwith ac yn canfod Brad Young mewn digonedd o le i rwydo'r drydedd gôl.

Cafodd Abertawe gôl gysur pan sgoriodd Ben Lloyd ar ôl gwaith da gan Lincoln McFayden i lawr yr asgell chwith.

Ond y Seintiau Newydd gafodd y gair olaf gyda Adrian Cieślewicz, cyn-chwaraewr Manchester City a Wrecsam yn rhwydo ddwyaith cyn y chwiban olaf.

Pynciau cysylltiedig