Tân Pen-y-bont: Rhyddhau dyn 25 oed ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â thân difrifol mewn warws ar stad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gan yr heddlu.
Cafodd safle hen ffatri Sony UK ei ddinistrio yn llwyr o fewn munudau wedi i'r tân ddechrau tua 20:30 nos Wener.
Fe lwyddodd pawb i adael yr adeilad yn ddiogel, ac ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dydd Sadwrn dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn lleol 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a pheryglu bywyd.
Fe wnaeth y llu gadarnhau brynhawn Sul fod y dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, a bod eu hymchwiliad yn parhau.
Mae ffyrdd yn parhau ynghau yn yr ardal wrth i'r gwasanaethau brys ddelio gyda'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr