Dyn wedi marw ar ôl i'w fws mini rolio'n ôl drosto
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r dyn wedi iddo adael ei fws mini yn ardal Penrhyn ym Mynyddcynffig
Mae dyn 66 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod y dyn wedi marw brynhawn Llun wedi iddo gael ei daro gan ei fws mini, a oedd wedi rolio'n ôl ar ôl iddo gamu allan o'r cerbyd.
Mae Adran Plismona'r Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd i gysylltu â'r llu.
Dywedodd yr Arolygydd Craig Bannister: "Am tua 14.10 ddydd Llun, 22 Ionawr bu gwrthdrawiad traffig angheuol ym Mhenrhyn, Mynyddcynffig, Pen-y-bont ar Ogwr.
"Roedd dyn lleol 66 oed newydd adael ei fws mini Mercedes du pan roliodd y cerbyd yn ôl, gan achosi anafiadau angheuol i'r dyn.
"Roedd y gwasanaethau tân ac ambiwlans yn bresennol ond yn anffodus, cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
"Mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol."