'999? Dwi wedi colli fy nannedd gosod!'

  • Cyhoeddwyd
man eating a kebabFfynhonnell y llun, Getty / Yulia Naumenko
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna rywun wedi ffonio'r Gwasanaeth Ambiwlans i ddweud ei fod wedi bwyta gormod o gebab!

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu cynnwys rhai o'r galwadau amhriodol a gafodd eu gwneud wrth ffonio 999 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn eu plith roedd rhywun oedd wedi colli ei lais, rhywun â modrwy yn sownd ar ei bys, rhywun oedd wedi bwyta gormod o gebab a rhywun oedd wedi colli ei ddannedd gosod.

Mae'r gwasanaeth yn annog y cyhoedd i "ddefnyddio synnwyr cyffredin" ac i edrych ar wefan GIG 111 am wybodaeth yn y lle cyntaf.

O'r 414,149 o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans y llynedd, roedd 68,416 ohonynt yn rhai nad oedd yn argyfwng bywyd neu farwolaeth.

Ar gyfartaledd roedd 188 o alwadau'r dydd i'r gwasanaeth 999.

Ffonio mewn argyfwng yn unig

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn atgoffa pobl i ffonio 999 dim ond os yw rhywun yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu.

Ffynhonnell y llun, Ute Grabowsky
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "colli dannedd gosod" yn un o'r galwadau a gafodd y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn ystod y llynedd

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth: "Mae galwadau amhriodol yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes dan bwysau ac fe allent ohirio cymorth i eraill."

Pwysleisiodd fod "ein parafeddygon a'n technegwyr wedi'u hyfforddi i helpu'r rhai y mae eu bywyd mewn perygl".

"Mae angen gofal clinigol ar bobl sydd wedi cael peswch ers cwpl o ddiwrnodau ac mae'n annoeth ffonio 999 pan fo cymaint o ffyrdd eraill o gael cymorth," meddai.

'Defnyddio'ch synnwyr cyffredin'

Ychwanegodd: "Ein neges i'r cyhoedd yw defnyddio'ch synnwyr cyffredin - mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng argyfwng go iawn a rhywbeth sy'n anghyfforddus, a ddim yn bygwth bywyd."

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl addysgu eu hunain am y dewisiadau y tu hwnt i ffonio 999.

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: "Os nad yw'n argyfwng difrifol neu'n un sy'n bygwth bywyd, mae'n bwysig iawn eich bod yn ystyried y dewisiadau amgen i 999.

Dywedodd wrth bobl edrych ar wefan GIG 111 Cymru, dolen allanol i gael gwybodaeth, ffonio 111 os yw'n fater brys neu ymweld â'ch fferyllydd lleol.

Roedd hefyd yn annog pobl i sicrhau eu bod yn casglu eu presgripsiwn mewn da bryd.

Dywedodd wrth bobl am holi eu hunain "a ydw i wir angen sylw'r gwasanaethau brys neu a alla' i ddefnyddio dewis arall neu mynd i'r ysbyty fy hun".

"Rydyn ni yma i helpu pobl, ond rydyn ni hefyd angen i'r cyhoedd gymryd rywfaint o berchnogaeth ac atebolrwydd am eu hiechyd a'u lles ar adeg pan fo gwasanaethau'r GIG dan bwysau y tu hwnt i fesur," meddai.

"Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn ddoeth a'u hamddiffyn ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf."

Pynciau cysylltiedig