Apêl i ganfod Walter y walabi ifanc ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Walter y WalabiFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio yn dilyn adroddiadau fod walabi ifanc wedi ei ddwyn o'i gartref ar Ynys Môn.

Y gred ydy bod Walter y walabi wedi'i ddwyn o gyfeiriad ar Ffordd Caergybi, Bae Cemaes rhwng 04:00 a 06:00 ddydd Iau, 18 Ionawr.

Mewn apêl ar Facebook, dolen allanol, dywedodd Sarjant Beth Lloyd: "Mae perchennog Walter yn pryderu'n fawr am les yr anifail ac am iddo ddychwelyd adref.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Walter y walabi, neu sydd â thystiolaeth ar gamera ar yr adeg honno neu sydd wedi bod yn dyst i ymddygiad amheus i gysylltu â'r heddlu ar unwaith."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i ganfod Walter gysylltu â Heddlu'r Gogledd.