'Trychinebus' bod cyn lleied yn astudio ieithoedd tramor
- Cyhoeddwyd
Mae'n "drychinebus... yn economaidd ac yn ddiwylliannol" bod cyn lleied o blant Cymru yn astudio ieithoedd rhyngwladol, yn ôl cyn-athro a chyn-bennaeth CBAC.
Mae'r niferoedd sydd wedi bod yn astudio ieithoedd rhyngwladol fel pynciau TGAU wedi bod yn lleihau yn gyson dros y blynyddoedd, gyda ffigyrau StatsCymru yn dangos gostyngiad o 62% ers 2013.
Dywedodd Derec Stockley, cyn-gyfarwyddwr arholiadau ac asesiadau CBAC, bod y gostyngiad yn "arswydus".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw a'u partneriaid yn cydweithio i "gynyddu'r niferoedd, ac i ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr".
Mae ffigyrau StatsCymru yn dangos bod 9,112 o ddisgyblion yn astudio ieithoedd rhyngwladol yn 2013, ond erbyn 2023 roedd y niferoedd wedi gostwng i 3,430.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Stockley bod y fath ostyngiad am gael effaith bellgyrhaeddol ar Gymru.
"Mae'r gostyngiad erbyn hyn yn arswydus, hynny yw does braidd neb yng Nghymru rhagor yn gwneud ieithoedd I TGAU heb sôn am safon uwch," meddai.
"Mae'n anodd meddwl bo' ni wedi cyrraedd y sefyllfa yna.
"Dwi'n meddwl bod hi'n drychinebus i'r wlad yn economaidd ond hefyd i'r disgyblion, mae diffyg mawr yn eu diwylliant bod dim iaith dramor fodern gyda nhw."
Mae Lowri Reid, arweinydd pwnc ieithoedd rhyngwladol yn Ysgol Gyfun Llanhari, yn rhannu'r un pryderon
"Mae'n bryder mawr. Da ni'n ffodus iawn yn Ysgol Llanhari bod y niferoedd yn gyson yma, ond mae hynny oherwydd yr egni yn yr adran.
"Mae angen i'r llywodraeth ymyrryd yn y niferoedd yma. Mae angen mwy o athrawon ieithoedd rhyngwladol yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg arnom ni yng Nghymru, heb os."
Er mwyn sicrhau bod diddordeb y disgyblion mewn Ffrangeg fel pwnc yn ffynnu, mae'r ysgol wedi trefnu taith gyfnewid gydag ysgol yn Guadeloupe.
Ar ôl derbyn nawdd gan gronfa 'Taith' Llywodraeth Cymru, fe fydd y disgyblion yn codi pac am wythnos fis nesaf, ac yn ymuno â disgyblion yn Ysgol Germain Saint-ruf.
Mae'r disgyblion fydd yn mynd ar y daith yn edrych ymlaen yn arw at y profiad.
'Methu aros'
"Dwi methu aros, oherwydd dwi'n mynd i le newydd dwi heb fod o'r blaen, ac yn gallu gweld pobl dwi 'di bod yn siarad gydag ers o'n i yn blwyddyn 9," meddai Lily.
Dywedodd Harri ei fod yn "gobeithio gweld sut ma' nhw'n byw a sut ma' nhw'n dysgu'r iaith" yn ogystal â "bod yn rhan o'u diwylliant nhw ar gyfer yr wythnos".
Mae Osian hefyd yn gobeithio cwrdd â phobl newydd a chael profiad o ddiwylliant gwahanol.
Ychwanegodd Caitlin: "Dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r ysgol i weld yr holl bobl ni 'di bod yn siarad gyda am y blynyddoedd diwethaf a gweld pa mor wahanol yw hi i Gymru."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod bod gostyngiad ar draws y DU yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol.
"Mae ein cynllun strategol Dyfodol Byd-eang yn nodi sut ydyn ni a'n partneriaid yn cydweithio i gynyddu'r niferoedd, ac i ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr.
"Fel rhan o'r cwricwlwm newydd i Gymru, mae gan bob dysgwr gyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol ac i ddefnyddio ieithoedd eu cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y gallant eu siarad. Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at ddatblygu dysgwyr y dyfodol.
"Drwy ein rhaglen Taith, rydyn ni'n cynnig cyllid i ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnal teithiau cyfnewid addysgol rhyngwladol ar gyfer eu disgyblion a'u staff. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymhellion amrywiol i ddenu rhagor o athrawon ieithoedd tramor modern i'r proffesiwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021