Pryder bod llai yn dysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ieithoedd Tramor
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2018 mae 45% o gwymp wedi bod yn y niferoedd wnaeth sefyll arholiad TGAU Ffrangeg, a 57% ar gyfer Almaeneg

Mae'r gostyngiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol fel pynciau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn bryder, yn ôl sefydliad rhyngwladol.

Yn haf eleni roedd 45% o ostyngiad yn y niferoedd wnaeth gais i sefyll arholiad TGAU Ffrangeg o'i gymharu â 2018, ac roedd 57% o gwymp ar gyfer Almaeneg.

Dywedodd sefydliad British Council Cymru ei bod yn sefyllfa fregus a allai gael effaith ar gysylltiadau Cymru â gwledydd tramor yn y dyfodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'n sefyllfa unigryw i Gymru, ond na ddylai ddod yn norm mewn ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Chloe ac Isabelle yw dwy o'r tri yn unig sy'n astudio Ffrangeg ym mlynyddoedd 12 a 13 yn Ysgol Maes y Gwendraeth

Yn Ysgol Maes y Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin, mae'r niferoedd sy'n astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer Safon Uwch yn isel.

"Dim ond fi sy'n 'neud Ffrangeg ar gyfer Lefel A," dywedodd Chloe o flwyddyn 12.

"Mae'n siomedig. Fi'n teimlo bod y gwersi'n hwyl ac yn ddiddorol a ma' astudio iaith yn gyfle gwych."

Dau sy'n astudio Sbaeneg ar gyfer Lefel A yno, a thri yn astudio Ffrangeg ym mlynyddoedd 12 a 13.

"Mae'n gallu teimlo'n unig," ychwanegodd Isabelle o flwyddyn 13.

"Fi'n dwlu dysgu Ffrangeg a siarad e, mae e wir yn beth trist i weld y ffigyrau," dywedodd Emily.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily, sydd ym mlwyddyn 13, wrth ei bodd yn dysgu Ffrangeg

Yn ôl ystadegau diweddaraf Cymwysterau Cymru, mae'r nifer wnaeth gais i sefyll arholiad Ffrangeg TGAU eleni wedi gostwng tua 45% ers haf 2018.

Roedd 57% o ostyngiad ar gyfer TGAU Almaeneg, ond cynnydd o 18% yn Sbaeneg.

Er nad oedd canran y gostyngiad mor sylweddol ar gyfer Safon Uwch, roedd y niferoedd yn isel.

250 o ddisgyblion wnaeth gais i astudio arholiad Lefel A Ffrangeg yn haf eleni, a dim ond 65 ar gyfer Almaeneg.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Anya ac Elen sy'n astudio Sbaeneg fel pwnc Lefel A yn Ysgol Maes y Gwendraeth

Mae gwybod pam fod gostyngiad ym mhynciau Ffrangeg ac Almaeneg yn anodd, yn ôl pennaeth adran ieithoedd rhyngwladol Ysgol Maes y Gwendraeth.

"Mae'n dorcalonnus gweld," meddai Liz Thomas.

"Dyw'r disgyblion falle ddim yn gweld pwrpas dysgu iaith ryngwladol... dyw Brexit ddim wedi helpu dim.

"Mae'r cwricwlwm mor eang, mae 'na gymaint o ddewis pynciau, ydyn nhw falle'n mynd am bynciau sy'n haws?"

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r disgyblion ddim yn gweld pwrpas dysgu iaith ryngwladol, yn ôl Liz Thomas

Mae British Council Cymru yn poeni y bydd y gostyngiad yn y niferoedd yn cael effaith ar gysylltiadau Cymru dramor.

"Mae'n sefyllfa fregus iawn," dywedodd Huw Davies o'r sefydliad.

"Ni 'di sôn am ddiwylliant, ond ma' 'na bethau fel diwydiant hefyd yn bwysig ac ar lefel wleidyddol hefyd, sut 'dyn ni'n mynd i weithio â'r Almaen a Ffrainc yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Davies o British Council Cymru yn poeni am y cydweithio rhwng gwledydd ym myd diwydiant a gwleidyddiaeth

Mae astudio iaith yn agor drws i bob math o gyfleoedd yn ôl Gwenan Iolo, 29, sy'n byw yn Valencia yn Sbaen.

"Ma' 'da fi griw mawr o ffrindiau yma, fi'n chwarae rygbi yma," dywedodd.

"Fi 'di bod yn gweithio drwy gyfrwng y Sbaeneg a'r Ffrangeg ers i fi gyrraedd yma.

"Mae'r ffaith bo' fi 'di astudio ieithoedd wedi rhoi profiadau i fi fydden i fyth wedi cael heb bo' fi wedi."

'Ddim yn broblem unigryw i Gymru'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr yn unigryw i Gymru.

"Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n cynnig cyfleoedd cyffrous i ddatblygu ac ehangu addysgu ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgolion.

"Rydym yn glir na ddylai'r gostyngiad ddod yn norm yn ein hysgolion.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn ein rhaglen Dyfodol Byd-eang, fel y Cyngor Prydeinig, i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru."

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael cais am ymateb.

Pynciau cysylltiedig