Ateb y Galw: Nia Bennett
- Cyhoeddwyd
Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr a Rheoli'r Urdd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Nia Bennett yn olynu Dyfrig Davies fel Cadeirydd, ar ôl iddo gamu i lawr wedi chwe blynedd yn y rôl.
Er i Nia gael ei geni yn Bolton, fe magwyd hi yn Llanfairpwll, Ynys Môn. Mae hi bellach yn byw gyda'i theulu yn Nghaerdydd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cael mynd i Ysgol Feithrin Llanfairpwll a chael aros yno dros amser cinio efo Anti Nan, a chael bwyta fy mrechdanau yn eistedd ar dop sleid y ffrâm ddringo.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Gormod o lefydd hyfryd i ddewis ohono - unrhyw le lle dwi'n gweld y mȏr. Mae'n rhoi ymdeimlad o lonyddwch yn gymysg efo posibilrwydd gan nad oes ffiniau i'w gweld. Os oes rhaid dewis un lle, yna Bae Ceredigion. Mae'r wefr dwi'n cael wrth fynd i Langrannog ac edrych allan o'r ffreutur newydd dros Fae Ceredigion yn deimlad arbennig.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhriodas wrth gwrs, teulu a ffrindiau ynghyd yn dathlu, cael hwyl ac edrych ymlaen at y dyfodol gyda fy ngŵr ffantastig. Noson fythgofiadwy arall oedd pan wnes i eni fy mhlentyn cyntaf. Wedi colli tri baban cyn hynny, roedd ofn gen i gredu y byddwn yn cael y fraint o fod yn fam.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Triw, angerddol, hunan-feirniadol
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Dwi'n dueddol o fod y math o berson sydd yn edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl ar y cyfan, ond dal i chwerthin yn uchel wrth hel atgofion a storïau gyda'r plant am eu hanturiaethau pan oedden nhw'n fach.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n gweithio mewn fferyllfa yn y pentre' pan oeddwn yn y chweched dosbarth a daeth dynes i mewn yn gofyn am rywbeth doedd gen i ddim syniad beth oeddent. Roedd hi'n brysur yn y siop ac roeddwn ar ben fy hun, ac mi waeddais ar dop fy llais at Mr Evans oedd yn y fferyllfa yn y cefn - dyn tawel, addfwyn, tad i ffrind imi a blaenor efo Dad... "oes gennych chi French letters?"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Y tro diwethaf imi grïo oedd yn fy nghwsg y noson o'r blaen. Mi fu ffrind agos imi farw yn ystod Covid, a tra ges i fynd i'w hangladd, doedd ddim yn bosib mynd i'r ysbyty i'w gweld cyn iddi farw. Dwi'n cael breuddwyd cylchol ei bod dal yn fyw, ei bod yn dod i'm gweld a dweud mai wedi mynd i ffwrdd am gyfnod oedd hi ond bod y teulu wedi penderfynu dweud ei bod wedi marw rhag ofn na fyddai'n gwella. Dwi'n ymateb yn flin am yr holl boen aethom drwodd o'i chloi, cyn sylweddoli mai breuddwyd oedd ac yna torri lawr i grïo yn sylweddoli bod realiti yn wahanol.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes llawer, gan gynnwys rhoi pethau o'r golwg rhywsut mewn drôrs, meddwl fod gen i amser i neud un peth bach arall yn gyflym, sydd yna yn fy ngwneud yn hwyr - a dwi'n casáu bod yn hwyr! Allwn fynd ymlaen...
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Gan mod i'n darllen gymaint efo gwaith, dim ond ar wyliau bellach dwi'n darllen nofelau mae gen i ofn. Byth braidd yn gweld y teledu chwaith! Fy hoff ffilm, heb os, ydi Grease. Hwn oedd y ffilm gyntaf es i i'r sinema i weld heb fy rhieni pan oeddwn i'n 10 oed. Fe es efo ffrind oedd yn ddwy flynedd yn hŷn, prynu'r tâp a'r record, ac yna'r fideo a'r cryno-ddisg a'u chwarae dro ar ôl tro. Roeddwn i eisiau bod yn Rizzo, a'i chaneuon hi dwi dal i berfformio pan mae gofyn am gân carioci! Dwi ddim yn un i ail-edrych ar ffilm nac ail-ddarllen llyfr fel rheol, a tydy sioeau cerdd ddim wir yn fy newis arferol o adloniant. Ond dros y blynyddoedd dwi wedi gweld y ffilm Grease ddegau os nad cannoedd o weithiau a gallwn gyd-adrodd y sgript gyda'r cymeriadau. Dwi erioed wedi gweld perfformiad byw o'r sioe gerdd ohono - ddim am chwalu y nostalgia!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Byddwn wrth fy modd yn treulio amser gyda Taid (Robert Owen). Newydd droi'n bedair oed oeddwn pan fuodd o farw, a brith gof sydd gen i ohono. Mae'n swnio yn ddyn diddorol iawn, a byddwn wrth fy modd cael treulio amser yn ei gwmni er mwyn cael y cyfle i'w holi a dod i'w adnabod fy hun.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fe es i am drip i Efrog Newydd i ddathlu fy mhen-blwydd yn 40. Wedi imi gyflwyno fy mhasbort, cefais fy nghadw mewn ystafell gloëdig mewn ardal arbennig ym maes awyr JFK gan fod y CIA yn edrych am ddynes o'r enw Nia Bennett a oedd wedi ei chyhuddo o ffeloniaethau difrifol iawn! Yn ffodus, dim ond rhyw 3 awr gymerodd iddyn nhw sylweddoli nad fi oedd y person oedden nhw'n chwilio amdani. Cefais amser gwych wedi hynny yn yr 'Afal Mawr!' ond dwi erioed wedi bod yn ôl yn yr UDA ers hynny!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byddwn ni yn cael diwrnod efo'r teulu a ffrindiau agos yn yfed bach o siampên ac yna gwin coch da. Bwyta bwyd blasus wedi ei baratoi gan eraill. Hel atgofion positif. Chwerthin. Canu 'There are Worst things I could do'; a debyg byddwn yn neud datganiad yn dweud wrth bawb cymaint roeddwn yn eu caru. I ddathlu yn hytrach na galaru fy mywyd. I fyw eu bywyd yn llawn. I ofalu am ei gilydd. I dderbyn cyfleoedd. I fod yn hapus. I barchu ei gilydd ac eraill. I fyw yn unol â gwerthoedd ac i ymgeisio i neud ychydig o wahaniaeth positif i fywydau eraill sydd ddim wedi derbyn yr un cyfleoedd a hwy mewn bywyd. Cwtsh fawr unigol efo pawb ac yna mynd i fan tawel am y pum munud olaf yn fodlon nad oes rhaid imi glirio i fyny.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Rhyw 20 mlynedd yn ôl agorodd stiwdio dynnu lluniau yn ein hardal ni. Gostiodd o ffortiwn inni ar y pryd, ond dwi'n dal i garu'r llun gan fy mod i'n cofio'r teimlad o hapusrwydd a chariad a sylweddoli pa mor ffodus oeddwn o'm teulu. Dwi'n edrych ar y llun a chyfrif fy mendithion bob dydd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, fyddai ef/hi?
Byddwn i yn bod yn Jeff Bezos. Byddwn wedi trefnu ymlaen llaw bod Paul McKenna yn ei hypnoteiddio peth cyntaf y bore hwnnw i gredu y dylai ddefnyddio ei bilynnau er mwyn sicrhau mwy o degwch yn y byd, nad oes yr un plentyn yn byw mewn tlodi a bod pawb yn cael cyfle i ffynnu; ac yn ail, bod 98% o unrhyw arian sydd yn weddill yn flynyddol, wedi iddo dalu ei staff, yn cael ei fuddsoddi (am weddill ei fywyd ef ac unrhyw un fyddai'n etifeddu ar ei ôl ar hyd y cenhedloedd), er mwyn sicrhau incwm i'w ddosrannu ar gyfer sicrhau byd teg i bawb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023