Gadael Cytûn i 'helpu pobl mewn cyfnodau anodd'
- Cyhoeddwyd
Fisoedd ers ei benodi yn brif weithredwr Cytûn, eglwysi ynghyd yng Nghymru, mae Siôn Brynach wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y swydd er mwyn bod yn offeiriad yng ngorllewin Caerdydd.
Wrth siarad â rhaglen Bwrw Golwg dywed Mr Brynach mai'r apêl iddo "yw cael bod wrth ochr pobl pan maen nhw'n mynd drwy gyfnodau anodd".
"Dwi wedi profi ochr arall y geiniog. 'Dan ni wedi cael amser anodd iawn dros y blynyddau diwethaf a dwi wedi cael bendith gwirioneddol o gwmni offeiriadon eraill," meddai.
"Dwi jyst eisiau bod gyda pobl a helpu nhw - dyna oedd yr atyniad pennaf wrth i fi geisio am y swydd hon."
Adeg ei benodi dywedodd Mr Brynach fod y profiad o gael canser, ynghyd â digwyddiad a achosodd anafiadau difrifol i'w wraig, wedi "dyfnhau fy ffydd".
Ym mis Hydref 2023 mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw bu Mr Brynach yn sôn am effaith yr hyn a ddigwyddodd i'w wraig, Cathrin, ar y teulu cyfan.
Bydd Mr Brynach, yn ei swydd newydd, yn offeiriad ar eglwysi yn Nhreganna a Phontcanna - yr ardal lle mae wedi bod yn byw ers 1994.
'Job ddelfrydol'
Fe ddechreuodd ar y broses o fod yn offeiriad yn 2016 ac mae wedi bod yn offeiriad yn ei amser hamdden ers 2020 wedi iddo gael hyfforddiant gan yr Eglwys yng Nghymru.
"Mae hi wedi bod yn fwriad gyda fi i fynd mewn i'r weinidogaeth yn llawn amser ers tro - ond doedd dim modd gwneud hynny tan nawr," meddai.
"Y job ddelfrydol o'n safbwynt i oedd bod yn offeiriad yn Nhreganna a Phontcanna yng ngorllewin Caerdydd.
"Ro'n i'n teimlo bo fi mo'yn bod ymhlith un set o bobl mewn ardal benodol."
Wrth gyfeirio at ei gyfnod gyda Cytûn dywed ei bod "wedi bod yn fraint ac yn bleser bod yn brif weithredwr ers Ebrill 2023".
"Byddaf yn edrych yn ôl ar y tri mis ar ddeg yn y swydd fel cyfnod cyffrous ac adeiladol.
"Rwy'n gobeithio y byddaf yn gadael gwaddol adeiladol o fod wedi holi cwestiynau heriol i eglwysi Cytûn trwy'r ddarlith a draddodais ym mis Awst 2023, a thrwy'r cyfarfod rhwng arweinwyr eglwysig Cymru ac ymddiriedolwyr Cytûn ym mis Hydref 2023."
Fel offeiriad yng ngorllewin Caerdydd dywedodd ei fod yn gobeithio cryfhau y cysylltiadau Cymraeg a'r rhai rhyng-ffydd.
"Mae 'na gyfleoedd rhyfeddol wrth i ganran y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd dyfu - ac hefyd cyfle i weithio gyda rhai o grefyddau eraill," meddai.
"Rhyw ychydig flynyddoedd yn ôl dwi'n cofio cerdded lawr trwy Dreganna a chyfri 11 o ieithoedd rhwng ein tŷ ni a chanol Treganna - mae'n gymdeithas amrywiol iawn, iawn."
Mae modd clywed cyfweliad Siôn Brynach yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022