Grŵp yn rhybuddio am argyfwng sy'n 'chwalu' afonydd
- Cyhoeddwyd
Dyfrffordd y Cleddau yw'r safle o ddiddordeb gwyddonol mwyaf llygredig yng Nghymru - dyna glywodd cyfarfod i drafod pryderon nos Wener.
Roedd o leiaf 250 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Hwlffordd.
Dywedodd y Cadeirydd, Gus Stott, ei fod yn "caru'r Cleddau" a'r nod oedd "ceisio sicrhau adferiad o ryw fath i'r afon".
Yn ôl Simon Walters, sydd wedi byw ger yr afon ar hyd ei oes, fe ddechreuodd bethau ddirywio yn y 1990au.
Dywedodd bod y Cleddau yn wynebu "trychineb ecolegol" oherwydd "effaith llygredd ar raddfa ddiwydiannol".
Fe honnodd hefyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi "methu yn ei ddyletswydd i amddiffyn yr afon".
Dywedodd Mr Walters bod gobaith, ac fe gyfeiriodd at y gwaith i adfer Afon Tyne yn Lloegr.
Yn ôl y gwyddonydd Ric Cooper, sydd hefyd yn defnyddio'r afon, mae'r ddyfrffordd mewn cyflwr gwael ac mae yna dystiolaeth bod gormod o faetholion yn y dŵr.
'Rhaid gwella'r sefyllfa'
Mae grŵp newydd - Prosiect y Cleddau - wedi cael ei ffurfio i geisio rhwystro'r afon rhag dirywiad pellach oherwydd effaith llygredd, amaethyddiaeth, carthffosiaeth a ffactorau eraill.
Mae'r Cleddau Ddu a'r Cleddau Wen yn ymuno ger pentref Landshipping i greu Dyfrffordd y Dau Gleddau.
Mae'r aber yn ymestyn am 16 milltir tua'r de, ac mae afonydd Carew a Cresswell hefyd yn ymuno ar y ffordd i'r môr yn Aberdaugleddau.
Mae yna bryder cynyddol am ansawdd dŵr yn y dyfrffordd.
Cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Walters: "Mae'r afonydd, y nentydd a'r bywyd gwyllt wedi cael eu chwalu. Rwy'n ofni fod pethau wedi mynd yn rhy bell, ac mae pethau yn dirywio.
"Mae'r grŵp yn gobeithio cael cefnogaeth y cyhoedd. Ry'ni am roi gwybodaeth i'r cyhoedd a cheisio gwneud pethau yn well."
Dywedodd fod y grŵp wedi ei sefydlu yn rhannol oherwydd oherwydd yr hyn mae ymgyrchwyr yn gweld fel methiant y rheoleiddiwr - Cyfoeth Naturiol Cymru - i erlyn y rhai sy'n llygru.
"Dyw nhw ddim yn erlyn, a felly does yna ddim byd i atal y rheiny sydd yn llygru. Mae yna bobl yn llygru dro ar ôl tro," meddai Mr Walters.
'Canolbwyntio ar leihau llygredd'
Cyn y cyfarfod fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi datganiad fel ymateb sy'n dweud: "Mae CNC yn edrych ymlaen i weithio gyda'r rhai sydd ynghlwm gyda Prosiect y Cleddau.
"Mae ansawdd y dŵr yn rhai o'n hafonydd ar draws Cymru yn broblem, ac nid yw'r Cleddau yn eithriad. Mae llygredd, yn enwedig nitradau, ffosfforws ac ati, yn cael effaith niweidiol ar safon y dŵr.
"Mae ffynnonellau amaethyddol yn cyfrannu tuag at fethiannau ansawdd dŵr. Mae carthffosiaeth ac allyriadau eraill o'r diwydiant dŵr yn gwaethygu'r broblem llygredd ynghyd â ffactorau eraill megis diwydiant lleol.
"Fel y rheoleiddiwr a gwarchodwr ein hamgylchedd, gwell gennym ganolbwyntio ar leihau digwyddiadau llygredd rhag niweidio'r amgylchedd yn y lle cyntaf yn hytrach na chymryd camau cyfreithiol unwaith y mae'r niwed wedi digwydd. Er hynny byddwn yn blaenoriaethu achosion i'w herlyn pan mae gennym dystiolaeth glir o effaith amgylcheddol difrifol a lle bydd ein gweithredoedd yn arwain at fudd positif i'r amgylchedd."
Mae Prosiect y Cleddau hefyd yn gobeithio lansio nifer o arbrofion i geisio monitro iechyd yr afon. Y gobaith yw recriwtio gwirfoddolwyr i ddarparu samplau dŵr yn rheolaidd.
Fe fydd aelodau'r cyhoedd hefyd yn medru cwyno am lygredd ar wefan y grŵp. Mae Prosiect y Cleddau yn dweud y byddan nhw yn "dal y rheiny sydd yn llygru i gyfrif" ac yn "herio'r rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru".
Gobaith y grŵp yw atal llygredd pellach ac adfer iechyd yr afon.
Mae disgwyl nifer sylweddol yn y cyfarfod a fydd yn cychwyn am 18:45 nos Wener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023