Dyn a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon wedi boddi - cwest
- Cyhoeddwyd
![Joshua Shaw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1F3C/production/_132169970_b68af58f-cf73-4ed3-a2ca-c50da2d957e6.jpg)
Cafodd Joshua Shaw ei weld yn mynd i'r afon ym Mhontypridd ar 27 Rhagfyr
Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn 23 oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon.
Cafodd Joshua Shaw, o Donyrefail, Porth, ei weld gan yr heddlu yn neidio i'r Afon Taf ym Mhontypridd toc wedi 18:00 ar 27 Rhagfyr 2023.
Cafwyd hyd i'w gorff yn yr afon yn ardal Gwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd ar 4 Ionawr.
Boddi oedd achos y farwolaeth, clywodd y cwest, wrth ddisgwyl am adroddiad tocsicoleg.
Nododd y crwner fod yr afon yn llifo'n gyflym iawn ar noson 27 Rhagfyr.
Dywedodd Heddlu De Cymru yn gynharach fod Mr Shaw yn dianc oddi wrth heddweision ar y pryd, a oedd yn ceisio siarad gydag ef am rywbeth oedd wedi digwydd ddyddiau ynghynt.
Cafodd y cwest, yn Llys Crwneriaid Pontypridd, ei ohirio tan ddyddiad diweddarach.
Anfonodd y crwner Kerrie Burge ei chydymdeimlad at deulu Mr Shaw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023