Cymro Cymraeg yng Nghwpan Asia yn 'neud o i mam'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro Cymraeg sydd wedi penderfynu chwarae pêl-droed i dîm cenedlaethol Awstralia wedi dweud y byddai ei fam, a fu farw yn 2022, yn falch o'i benderfyniad.
Ddechrau'r mis cafodd Gethin Jones, sy'n chwarae i Bolton Wanderers, ei enwi yng ngharfan y Socceroos ar gyfer Cwpan Asia.
Er iddo gael ei fagu ym Mhorthmadog, fe anwyd Gethin yn ninas Perth yng ngorllewin Awstralia, ac mae wedi dewis cynrychioli'r wlad honno.
Yn siarad ar raglen Ar y Marc BBC Radio Cymru fore Sadwrn dywedodd Gethin fod cynrychioli Awstralia "wedi bod yng nghefn meddwl fi ers i fi fod yn hogyn bach".
Ychwanegodd ei fod yn teimlo balchder yn chwarae dros Awstralia am fod ei fam yn caru'r wlad ar ôl treulio cymaint o amser yno.
Bu farw mam Gethin, Karen Jones, yn 56 oed yn 2022 yn dilyn brwydr gyda Chlefyd Motor Niwron.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"I fi, oedd o [cynrychioli Awstralia] yn rhywbeth i fod yn proud ohono fo - 'neud o i mam 'fyd," meddai.
"Even pan o'n i yn chwarae dros Gymru pan o'n i'n ifanc, o'dd hi o hyd yn d'eud 'be am chwarae i Awstralia?'
"So pan ges i'r alwad, o'n i'n gw'bod fysa mam yn rili proud, a dwi jysd isio g'neud yn dda er mwyn fy nheulu, ac yn enwedig i mam."
Ychwanegodd fod cynrychioli Awstralia yn un o brif gystadlaethau Asia wedi bod yn "brofiad rili da - lot yn wahanol i be' dwi 'di 'neud o'r blaen".
Bydd Awstralia yn herio Indonesia yn rownd yr 16 olaf ddydd Sul, ar ôl trechu India a Syria a chael gêm gyfartal gydag Uzbekistan yn eu grŵp.
Fe wnaeth Gethin ddechrau a chwarae'r 90 munud llawn yn y ddwy fuddugoliaeth.
Os ydy Awstralia yn llwyddo i drechu Indonesia, fe fyddan nhw'n wynebu un ai De Corea neu Saudi Arabia yn rownd yr wyth olaf.
Ar ôl cael ei eni yn Awstralia, symudodd y teulu yn ôl i Gymru pan oedd Gethin yn ifanc.
Er iddyn nhw fynd yn ôl yno'n gyson i ddechrau, dywedodd Gethin nad oedd wedi bod yn Awstralia ers ei arddegau cynnar - pan ddechreuodd yn nhimau ieuenctid Everton.
Bellach yn is-gapten i Bolton Wanderers yn Adran Un, mae'r amddiffynnwr 28 oed wedi ennill capiau i dimau ieuenctid Cymru.
Ond er iddo hyfforddi gyda thîm cyntaf Cymru yn 2016, ni enillodd gap llawn ac felly roedd yn rhydd i newid ei wlad gofrestredig.
Dywedodd ei fod wedi cael cyfarfod gydag is-reolwr Awstralia René Meulensteen ychydig fisoedd yn ôl, ble penderfynodd Gethin y byddai'n awyddus cynrychioli'r Socceroos.
Ond am ei fod wedi bod yn rhan o garfan Cymru yn y gorffennol, ac wedi cynrychioli'r timau ieuenctid, roedd yn rhaid gwneud cais i gorff llywodraethu pêl-droed FIFA er mwyn cael chwarae i Awstralia.
"Y pedair, bum mlynedd ddiwethaf, dwi heb gael galwad ffôn gan Gymru," meddai Gethin.
"Dim 'bo fi'n deud dim byd drwg am Gymru - maen nhw wedi bod yn 'neud yn brilliant.
"A mae 'na lot o chwaraewyr sy' yn position fi - right-back - yn 'neud yn unbelievable, fel Connor Roberts a Nico Williams, felly mae'n anodd i fi gael mewn yn fan'na.
"Felly a dweud y gwir, pan 'naeth Awstralia roi galwad i fi, o'dd o'n no brainer i fi er mwyn gallu chwarae ar yr international level."
Sioc o glywed Cymraeg
Ychwanegodd fod rhai o aelodau carfan Awstralia wedi cael sioc yn clywed Gethin yn ffonio adref a siarad Cymraeg, gyda rhai ohonynt ddim yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith.
"Dwi'n codi'r ffôn a siarad Cymraeg, a maen nhw i gyd yn sbïo - 'sa rei ohonyn nhw ddim yn gwybod bod'na iaith Gymraeg yng Nghymru!" meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr