Porthcawl: Canfod corff wrth chwilio am fenyw a aeth i'r môr

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau Brys
Disgrifiad o’r llun,

Bu nifer o wasanaethau brys yn chwilio am y fenyw yn y dyddiau wedi iddi fynd i'r dŵr

Mae Heddlu De Cymru'n dweud fod corff wedi cael ei ganfod ar ôl i fenyw gael ei gweld yn mynd i'r môr ym Mhorthcawl yn gynharach yr wythnos hon.

Fe dderbyniodd yr RNLI adroddiadau bod person yn y dŵr tua 17:55 ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn bod corff menyw wedi cael ei ganfod "mewn man arfordirol gerllaw" yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd.

Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, ond mae teulu'r fenyw a gafodd ei gweld yn mynd i'r dŵr wedi cael gwybod am y datblygiad.