Reslo Braich: 'Angen denu mwy o ferched i'r gamp'

  • Cyhoeddwyd
Y criw yn hyfforddi yn Nefyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl o leia' hanner cant o gystadleuwyr a gwylwyr yn y gystadleuaeth dydd Sadwrn

Am y tro cyntaf erioed mi fydd twrnamaint rhanbarthol reslo braich Prydain (PAA) yn dod i'r gogledd gyda thîm lleol wedi'i ffurfio er mwyn cystadlu.

Mai'n gamp na sydd wedi derbyn llawer o gyhoeddusrwydd yn ôl cystadleuwyr, ond yn dilyn cyfnod y pandemig mae'r niferoedd sy'n cystadlu wedi cynyddu.

Ddydd Sadwrn 3 Chwefror mae disgwyl o leiaf 50 o gystadleuwyr a gwylwyr ym mhentref Edern lle fydd rhai o reslwyr braich mwyaf nodedig Prydain yn cymryd rhan.

Ond gyda'r gamp yn denu mwy o gystadleuwyr, mae angen mwy o gyhoeddusrwydd i ddenu mwy o ferched i fentro hefyd yn ôl rhai o Nefyn sy'n bwriadu cystadlu.

Ymhell o'r gerddoriaeth uchel a sgrechfeydd y dorf arferol wrth gystadlu, mae criw o Gymry yn ymarfer mewn sied dawel yn Nefyn ym Mhen Llŷn.

Maen nhw'n dweud, yn groes i'r ddelwedd, fod reslo braich yn gamp sydd â thipyn o sgil yn perthyn iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Reuben Hughes wedi cystadlu ar lefel genedlaethol yn y gorffennol

Er yn weddol newydd i'r fenter, mae Reuben Hughes, sy'n 38 oed, yn hyfforddi eraill ag yntau wedi cystadlu ar lefel genedlaethol."Mae'n dod yn fwy poblogaidd yn sydyn," meddai wrth siarad â Newyddion S4C."'Swn i'n feddwl ers Covid mae o 'di mwy na dyblu yn braf yma ym Mhrydain o ran poblogrwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Reuben bellach yn hyfforddi eraill

Yn ôl Mr Hughes, dim ond tua 25 oedd yn cystadlu cyn y pandemig ond bellach mae'r niferoedd wedi dringo i tua 100 ar lefel amaturaidd gyda'r un nifer yn broffesiynol."Mae pawb 'di o leia' gweld pobl yn reslo braich ers pan yn ifanc neu mewn pyb, felly ma' 'na 'wbath ynddo fo."Pan ti'n mynd i gystadlu wedyn mae 'na frawdgarwch yna ac mae nhw'n dod fath â tîm mawr efo'i gilydd ac mae peint i gael ar ôl y gystadleuaeth - dyna dwi'n licio amdano!"Mae'r Cymro rŵan wedi llwyddo i ddenu twrnamaint rhanbarthol y PAA i ogledd Cymru am y tro cyntaf ac mae criw o Gymry newydd hefyd yn paratoi i gystadlu am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Sian Hughes (chwith) a Carol Jones (dde) gymryd rhan mewn cystadleuaeth

Mae Carol Jones, 40 oed, yn hyfforddi gyda'r criw ac yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth am y tro cyntaf."Mae o'n verytechnical de... 'don i byth yn meddwl 'swn i'n defnyddio'r corff i gyd."'Sa chdi jest yn meddwl mai'r fraich oedd hi ond mae'r ffordd mae'r coesau yn mynd a'r corff - ma 'na gymaint o techniques."

'Angen mwy o sylw i ochr y merched'

Un arall sy'n cystadlu ydi Deio McGowan: "Pan mae rhywbeth newydd yn dŵad a 'di pobl heb arfer ei 'neud o - dydi pobl ddim yn keen... ond ma'n dda cefnogi rhywbeth bach yn wahanol 'de!"

Mae Sian Hughes, sy'n wraig i Reuben wedi arfer teithio ar draws y wlad i gystadlaethau gwahanol ond rŵan yn paratoi i gystadlu am y tro cyntaf ac yn pwysleisio'r angen i ddenu mwy o ferched.

"Mae 'na griw yn dod i fyny wan, mae 'na dair yn ardal Manceinion a ma' nhw'n arbennig o dda," meddai.

"Mae 'na un yn Oxford a hi'n dod drwodd - mwy o sylw iddo o ran yr ochr merched sydd isho."

Er nad ydi'n teimlo'n hyderus mae hi fel gweddill y criw yn Nefyn yn edrych ymlaen at y profiad ac yn gobeithio ysbrydoli cystadleuwyr y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig