Pobl Cymru yn cymryd polisïau Llafur yn 'ganiataol' - Morgan

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "bryderus iawn" am gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri budd-daliadau anabledd a salwch
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yng Nghymru yn cymryd polisïau Llafur Cymru yn "ganiataol", yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Eluned Morgan efallai na fyddai pleidleiswyr yn "caru" yr hyn yr oedd llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud.
Ond rhybuddiodd y gallai presgripsiynau am ddim gael eu torri'n ôl pe bai plaid wahanol mewn llywodraeth.
Ychwanegodd arweinydd Llafur Cymru ei bod yn cymryd bygythiad Reform UK "o ddifrif" cyn etholiad nesaf y Senedd ymhen 13 mis.
Awgrymodd nad yw'r blaid sy'n cael ei harwain gan Nigel Farage yn poeni am Gymru, gan ddweud nad oes "dim byd Cymreig amdanyn nhw".
Galwodd Reform ei sylwadau yn "anobeithiol", tra bod Plaid Cymru yn dweud mai "Llafur sy'n cymryd pobl Cymru yn ganiataol".
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Yn y cyfamser dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "bryderus iawn" am gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri budd-daliadau anabledd a salwch.
Ar ffrwd fyw Facebook WalesOnline, gofynnwyd iddi beth fyddai'n ei ddweud wrth bleidleiswyr sy'n feirniadol o Lafur oherwydd newidiadau i fudd-daliadau a'r terfyn cyflymder o 20mya.
"Beth fyddwn i'n ei ddweud yw, peidiwch â chymryd pethau'n ganiataol. Rydyn ni'n gwneud penderfyniadau ar ble rydyn ni'n gwario arian," meddai Ms Morgan.
"Rydych chi'n cael presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Dydych chi ddim yn cael hynny yn Lloegr.
"Rydych chi'n gallu cael cymorth o ran gofal - mae uchafswm o £100 [yr wythnos] ar ofal yng Nghymru. Does dim cap ar ofal yn Lloegr.
"Efallai nad ydych chi'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud ond pe na baem ni yma, a'ch bod chi'n gweld toriadau, byddech chi'n gweld gwahaniaeth gwirioneddol."
Reform 'ddim yn blaid ofnadwy o Gymreig'
Rhestrodd Ms Morgan y lwfans cynhaliaeth addysg sydd wedi'i gadw yng Nghymru, a'r gyfradd safonol a gyhoeddwyd ar gyfer teithiau bws i bobl ifanc.
"Yr holl bethau hyn y mae pobl wedi eu cymryd yn ganiataol - dydw i ddim yn gwybod a fydd pleidiau eraill yn gwneud yr addewid hwnnw."
Awgrymodd arolwg barn ddiwedd y llynedd fod Reform ar lefel debyg i Lafur, gyda'r ddwy blaid ychydig ar ôl Plaid Cymru ac o flaen y Ceidwadwyr.
Dywedodd ei bod yn cymryd bygythiad Reform UK "o ddifrif".
"Rydyn ni'n cydnabod bod rhwystredigaeth mewn rhai mannau. Dyw Reform ddim yn blaid ofnadwy o Gymreig. Dydyn nhw ddim wir yn deall Cymru.
"Maen nhw'n debygol o hedfan Nigel Farage i mewn am ychydig wythnosau, ac fe fyddan nhw'n diflannu eto. Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw beth positif. Yr unig beth dwi'n gwybod amdanyn nhw o ran polisi yw eu bod am gyflwyno yswiriant i'r GIG.
"Dydw i ddim yn meddwl bod yna lawer o bobl yng Nghymru a fyddai'n cefnogi hynny."

"Mae Trump yn achosi anhrefn llwyr," meddai Eluned Morgan
Dywedodd mai rhan o'r anhawster gydag arwain ar hyn o bryd yw "rydym yn cael ein bwrw gan ddigwyddiadau'r byd", gan gynnwys costau ynni cynyddol.
"Mae Trump yn achosi anhrefn llwyr," meddai, gan ychwanegu fod polisïau ariannol yr Unol Daleithiau yn "mynd i gael effaith ar ein heconomi yma yng Nghymru".
"Rydyn ni'n gwneud llawer o geir, neu ddarnau o geir, sy'n cael eu hanfon i'r Unol Daleithiau. Mae hynny'n mynd i effeithio ar swyddi yma.
"Nid fi sy'n gwneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth, rhywle arall sy'n effeithio ar bob un ohonom."
'Rhan o'r pryder yw peidio gwybod'
Mae Eluned Morgan wedi bod dan bwysau dros yr wythnosau diwethaf oherwydd toriadau arfaethedig llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd a salwch.
Tra bod hi wedi bod yn ofalus i beidio â beirniadu'r cynlluniau yn uniongyrchol, mae hi wedi mynegi pryder am eu heffaith.
Mae hi hefyd wedi beirniadu un o weinidogion Llafur llywodraeth y DU am ddweud ei bod wedi croesawu'r toriadau.
Yn y Facebook Live dywedodd: "Rwy'n poeni'n fawr am bobl, a'r cynigion, ac yn enwedig pobl fregus iawn.
"Mae'n bryder gwirioneddol i bobl, a rhan o'r pryder yw peidio â gwybod. Ydych chi'n mynd i gael eich effeithio, lle mae'r llinell yn mynd i gael ei thynnu, a phryd mae'n mynd i ddod i mewn?"
"Dyma'n hollol pam mae'n rhaid i Lywodraeth y DU amddiffyn ei phenderfyniad.
"Yr hyn y gallaf ei wneud yng Nghymru yw gwneud yn siŵr ein bod yn ceisio cefnogi pobl cymaint â phosib."

Mae Eluned Morgan wedi mynegi pryder am effaith bosib y toriadau - a gafodd eu cyhoeddi gan Rachel Reeves - ar Gymru
Gan ymddangos fel pe bai'n cyfeirio at gynlluniau i helpu pobl i ddod o hyd i waith, dywedodd: "Rwy'n poeni'n fawr, os ydych chi'n torri budd-daliadau pobl, heb fynd â nhw ar daith, bod hynny'n wirioneddol broblematig.
"Rydyn ni'n gwybod beth sy'n gweithio yng Nghymru - rydyn ni wedi'i wneud, trwy gefnogi pobl ifanc i mewn i waith."
Ychwanegodd: "Rhaid i ni weithio allan - beth fydd effaith hynny?"
"Os ydych chi'n cymryd cryn dipyn o arian, nid yn unig allan o bocedi pobl ond allan o'r economi ehangach. Fel arfer mae'r arian hwnnw'n cael ei wario'n lleol - gallai hynny gael sgil-effaith ar gaffis lleol a siopau lleol a phethau."
"Mae'n rhaid i ni ystyried beth fydd yr effaith ar Gymru ac rydyn ni'n gwybod y bydd yn fwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid yw pleidleiswyr Cymru yn cymryd polisïau'n ganiataol – Llafur sy'n cymryd pobl Cymru yn ganiataol.
"Mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn gwybod bod record Llafur yn un o GIG sydd wedi torri, gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd, a gwrthodiad llwyr i sefyll i fyny yn erbyn parhad y cyni a thorri budd-daliadau i bobl anabl gan eu penaethiaid yn Llundain - a fydd ond yn gwthio ein cymunedau ymhellach i dlodi."