Arestio dyn wedi gwrthdrawiad angheuol ger Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 28 a 29 yr M4 i gyfeiriad y dwyrain

Mae dyn yn ei dridegau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ger Casnewydd nos Lun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng cyffyrdd 28 a 29 yr M4 i gyfeiriad y dwyrain am tua 21:00.

Bu farw gyrrwr un o'r cerbydau - dyn 52 oed o Gasnewydd - yn y fan a'r lle ac mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 34 oed o Gaerdydd yn cael ei gadw yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tagfeydd hir i'w gweld ar y draffordd fore Mawrth

Mae'r digwyddiad wedi arwain at giwiau hir ar yr M4 fore Mawrth.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mike Richards o Heddlu De Cymru y byddai pob lôn rhwng C30 Porth Caerdydd a C28 Parc Tredegar ar gau "tra bod ein swyddogion yn dal i weithio ar safle'r gwrthdrawiad".

Bu'r draffordd ar gau i gyfeiriad y dwyrain tan tua 10:25 fore Mawrth, ond fe ddywed Traffig Cymru fod pob lôn tua'r dwyrain bellach wedi ailagor, ond mae'r lôn allanol tua'r gorllewin yn dal ar gau.

Mae tagfeydd yn parhau wrth i'r traffig glirio i'r ddau gyfeiriad.

Pynciau cysylltiedig