'Afresymol' cau canolfan anabledd yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan anabledd yn Sir Ddinbych sy'n darparu offer ac addasiadau i gwsmeriaid gyda symudedd cyfyngedig wedi cau oherwydd trafferthion ariannol.
Mae wyth aelod o staff wedi bod yn cyfarfod ag ymddiriedolwyr y Ganolfan Adnoddau Anabl ym Modelwyddan ynghyd â chwsmeriaid sy'n aros i gasglu archebion.
Penderfynodd yr ymddiriedolwyr gau'r safle oherwydd "pryder cynyddol ynglŷn â sefyllfa ariannol y ganolfan".
Bydd "trefniadau angenrheidiol" yn cael eu gwneud ynglŷn ag archebion ac offer sydd heb eu casglu, meddai'r datganiad.
Dywedodd Annette Lees, a oedd yn gweithio yn y ganolfan hyd at yr wythnos ddiwethaf, fod cau'r safle yn "wirioneddol arswydus" a bod offer sydd angen mynd at gwsmeriaid yn y gweithdy dal i fod.
Mae Annette wedi bod yn gweithio yn y ganolfan ers wyth mlynedd, meddai, gydag eraill wedi gweithio ar y safle ers dros 20 mlynedd.
"Mae o'n sioc i ni gyd a'n cwsmeriaid," dywedodd Annette. "Da ni wedi adeiladu perthynas gryf gyda nhw dros nifer fawr iawn o flynyddoedd a da ni'n teimlo maen nhw wedi cael eu gadael i lawr.
"Mae'r ganolfan wedi bod yn achubiaeth iddynt ac yn amlwg dydyn nhw ddim yn hapus hefo'r penderfyniad, sy'n dorcalonnus i ni gyd."
Mae James Lusted, a gafodd ei eni gyda chyflwr Dysplasia Diastroffig, yn gobeithio y bydd modd achub y ganolfan.
Yn sefyll y tu allan i'r ganolfan, dywedodd Mr Lusted fod penderfyniad yr ymddiriedolwyr i gau'r safle yn un "brysiog ac annheg".
Ychwanegodd Mr Lusted - sydd wedi defnyddio'r ganolfan yn rheolaidd ei hun - ei bod yn "afresymol i ofyn i bobl leol i deithio i Loegr am yr un gwasanaeth".
'Mae'n ofnadwy'
Ymysg y cwsmeriaid sy'n disgwyl i gasglu archebion o'r ganolfan mae Jan McAlister, sydd wedi bod yn archebu offer i'w gwr am flynyddoedd.
Dywedodd eu bod yn ddibynnol ar y ganolfan i gludo'r offer i'w tŷ.
Roedd Angela Swan hefyd yn disgwyl i sgwter symudedd ei mam i fod yn barod i'w gasglu ddydd Iau diwethaf, ond pan ffoniodd hi'r ganolfan, doedd dim ateb.
Ar ôl clywed y newyddion, penderfynodd ymuno hefo'r cwsmeriaid a'r staff tu allan i'r adeilad.
"Mae fy mam yn anabl ac yn defnyddio sgwter symudedd sy'n mynd ar y lonydd.
"Mae hi'n hoffi mynd allan arno yn yr haf felly da ni'n dod a fo i'r ganolfan i wneud yn siŵr fod o'n barod iddi hi.
"Dwi'n teimlo mor sori i'r staff yn enwedig, maen nhw wastad yn mynd allan o'u ffordd i helpu ac i sicrhau fod eu cwsmeriaid hefo bob dim maen nhw angen - mae'n ofnadwy.
"I ni, os da ni methu ffeindio rhywle arall i gynnal a chadw sgwter mam, does genai ddim syniad be nawn ni."
'Pryder cynyddol'
Mewn datganiad, dywedodd yr ymddiriedolwyr bod y penderfyniad "anodd" i gau wedi ei wneud oherwydd "pryder cynyddol ynglŷn â sefyllfa ariannol y ganolfan".
Ychwanegodd y datganiad bod staff wedi cael gwybod am y penderfyniad i gau, ac y byddai trefniadau dros y dyddiau nesaf i gwsmeriaid gasglu offer o'r ganolfan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023