'Digon yw Digon' ar ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tomos fod y ffilm yn dangos i blant "beth ddylia nhw ddim ei wneud"

Dangos effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar unigolion a chymunedau ledled Cymru yw nod ffilm newydd sydd wedi'i rhyddhau.

'Digon yw Digon' yw teitl y ffilm ddwyieithog gan Heddlu'r Gogledd, ac mi fydd yn cael ei rhannu â disgyblion blwyddyn 8 ar hyd y wlad.

Mae 17.6% o'r holl droseddau sy'n cael eu hadrodd yng Nghymru yn droseddau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a'r pedwar llu heddlu yng Nghymru, ac roedd lansiad swyddogol y ffilm yng Nghaergybi ddydd Mawrth.

Annog disgyblion i feddwl cyn ymddwyn

O gymharu fesul blwyddyn, roedd 'na gynnydd o 0.5% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfnod rhwng Rhagfyr 2022 a Thachwedd 2023 yng Nghymru.

Un sy'n serennu yn y ffilm ydi Tomos o Flaenau Ffestiniog sydd o'r farn bod y ffilm yn bwysig iawn.

Dywedodd: "Mae yna lot o blant sy'n gwneud yn union beth mae'r ffilm yn ei ddangos."

"Mae'r ffilm yn dangos iddyn nhw beth ddylia nhw ddim ei wneud ac yn egluro pam."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd lansiad swyddogol y ffilm yng Nghaergybi, ddydd Mawrth

Aeth ymlaen i ddweud: "Yn aml iawn, mae ffrindiau yn gweld beth maen nhw'n ei wneud yn ddoniol, ond beth dydyn nhw ddim yn ei weld ydi beth mae hynny'n ei olygu i'r person arall".

Mae Tomos yn gobeithio bydd y ffilm yn annog disgyblion i feddwl cyn ymddwyn mewn ffordd benodol, gan ddweud "mae 'na help ar gael i bobl ifanc".

Bethan James yw Rheolwr Cenedlaethol Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru, ac roedd hi'n bresennol yn y lansiad.

Dywedodd: "Mae yna nifer iawn o bynciau yn codi yn yr ysgolion - ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un ohonyn nhw ymysg pethau eraill.

"Mae plant a phobl ifanc eisiau siarad, maen nhw eisiau cyngor... gobeithio bydd y ffilm yn cynnal sgwrs mwy na dim byd a chael pobl i ddeall beth yw canlyniad ymddygiad maen nhw'n ei wneud yn eu cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan James yn gobeithio y bydd y ffilm yn "cynnal sgwrs"

Er bod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru mae cynlluniau gan Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain at ostyngiad mewn ymddygiad o'r fath yn ddiweddar.

Mae cynllun cerdyn melyn yr heddlu yn ffordd o ddisgyblu pobl sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol drwy roi cerdyn melyn, hysbysu'r rhieni, a chyfeirio'r mater at y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd mae'r cynllun yma wedi dangos canlyniadau cadarnhaol gyda dros 500 o gardiau melyn wedi'u cyflwyno i bobl yn 2022, a dim ond 315 erbyn y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plismon Tony Williams hefyd yn actio yn y ffilm a dywed ei bod yn bwysig dysgu yn hytrach na chosbi

Yn ôl PC Tony Williams, sydd hefyd yn actio yn y ffilm newydd, mae'r cynllun yma ynghyd â'r ffilm yn ffyrdd da iawn i geisio lleihau'r broblem.

Dywedodd: "Mae'r cynllun cerdyn melyn yn gallu bod yn llwyddiannus iawn. Mae'n broses i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn dysgu yn hytrach na chosbi bob tro.

"Mae'r ymateb yn dda iawn, mae cael plant i ddeall fod pethau fel knock door run yn dod o dan ymbarél ymddygiad gwrthgymdeithasol - mae'r holl bethau yma'n cael effaith ar bobl."

Yn ôl ffigyrau troseddu ar draws naw rhanbarth yng Nghymru a Lloegr - Cymru oedd y trydydd uchaf ar y rhestr honno, gyda dros 54,000 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi'u hadrodd yma.

Bydd y ffilm yn cael ei rhannu ag ysgolion ar hyd y wlad er mwyn ceisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.