Gwahardd arweinydd grŵp Llafur Cyngor Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn Sir Gâr yn dweud ei fod yn "awyddus i glirio fy enw" ar ôl cael ei wahardd gan y Blaid Lafur.
Mae'r Cynghorydd Rob James wedi bod yn arweinydd grŵp Llafur y cyngor ers 2018.
Y gred yw bod y gwaharddiad yn ymwneud â neges destun gan y Cynghorydd James yn ystod cyfarfod cyngor y llynedd oedd yn cynnwys gwybodaeth anghywir am AS, a honiad o lawrlwytho data fel rhan o'i rôl yn gweithio i AS Gorllewin Abertawe, Geraint Jones.
Fe gadarnhaodd y Blaid Lafur fod y Cynghorydd James wedi cael ei wahardd ac y bydd ymchwiliad i'r mater.
'Aros am ymchwiliad'
Dywedodd Mr James ei fod wedi cael ei ddileu o'r rhestr fer ar gyfer sedd newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol.
Bydd y blaid yn lleol nawr yn dewis arweinydd grŵp newydd, ond cadarnhaodd Mr James y bydd yn parhau i eistedd fel cynghorydd Llafur yn hytrach nag aelod annibynnol.
Dywedodd: "Rwyf wedi cael fy ngwahardd yn weinyddol o'r blaid tra'n aros am ymchwiliad.
"Byddaf yn parhau i wasanaethu fy mhreswylwyr, fel yr wyf wedi ei wneud ers 2017 fel cynghorydd Llafur.
"Edrychaf ymlaen at y cyfle i glirio fy enw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022