Disgwyl i Darren Price arwain Cyngor Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Cynghorydd Darren Price gael ei ethol fel arweinydd nesaf Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Daeth cadarnhad dros y penwythnos bod cyfarfod o gynghorwyr Plaid Cymru yn lleol wedi dewis Mr Price i olynu Emlyn Dole fel arweinydd y grŵp ar y cyngor.
Gyda'r blaid wedi sicrhau mwyafrif o aelodau, mae disgwyl y caiff ei ethol i'r swydd yn ystod cyfarfod blynyddol y cyngor ar 25 Mai.
Yn yr etholiadau ddydd Iau llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau 38 o'r 75 sedd.
Ond er llwyddiant ei blaid bu i arweinydd y grŵp a'r cyngor ers 2015, Emlyn Dole, golli ei sedd.
Yn dilyn y cyfarfod o grŵp newydd y blaid dywedodd Mr Price, sy'n 42 oed ac yn cynrychioli ward Gorslas: "Mae hon yn her aruthrol ond cyffrous hefyd.
"Rhaid gwireddu'r weledigaeth a'r gwaith gwych i adfywio'r sir a gychwynnwyd yn ystod cyfnod Emlyn Dole, a hynny ar adeg anodd yn genedlaethol.
"Os caiff fy enwebiad ei gadarnhau gan y cyngor llawn, byddaf yn estyn allan at aelodau, waeth beth fo'u perswâd gwleidyddol, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd er lles Sir Gâr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022