Atal hysbysiadau treth papurau newydd yn 'ddinistriol' i ohebu

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau

Mae pryderon am gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i atal y gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau statudol o'r dreth gyngor mewn papurau newydd.

Yn lle hynny, byddai gofyniad i gyhoeddi hysbysiad o'r taliadau treth gyngor ar wefan yr awdurdod lleol a "rhoi trefniadau amgen addas ar waith i sicrhau bod gwybodaeth o'r fath ar gael i ddinasyddion sy'n ei chael yn anodd cael mynediad at gyfleusterau ar-lein".

Byddai'r newid yn "destun pryder" meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, gan y byddai'n "debygol o gael effaith anghymesur ar bobl hŷn".

Mae rhai cynrychiolwyr o bapurau newydd wedi rhybuddio y byddai'r golled ariannol yn effeithio yn ddifrifol ar eu busnesau, ond dywedodd llefarydd ar ran gwefan Wrexham.com ei fod yn cefnogi'r cynlluniau gan fod y gyfraith bresennol yn "hynafol".

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud wrth bwyllgor llywodraeth leol Senedd Cymru mai tua £33,000 yw gwariant blynyddol awdurdodau lleol ledled Cymru ar hysbysiadau treth, ond mae rhai papurau newydd yn poeni y gallai arwain at newidiadau yn y dyfodol i ofynion am hysbysiadau ar feysydd eraill megis cynllunio a thrafnidiaeth.

Papurau bro?

Os yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau statudol am y dreth gyngor yn parhau, awgrymodd Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionnydd, y dylid eu cyhoeddi mewn papurau bro hefyd sydd, meddai, "a chylchrediad o 66,000 o bobl, mwy na'r Western Mail a'r Daily Post gyda'i gilydd".

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor yn gwrthwynebu bwriad Llywodraeth Cymru yn rhan o'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol, dywedodd Heléna Herklots "mae'n bosibl y bydd dinasyddion yn fwy tebygol o weld gwybodaeth ddefnyddiol nad oeddent yn ymwybodol ohoni (ac felly ddim yn bwriadu chwilio amdani'n benodol) wrth bori drwy bapurau newydd cyhoeddedig.

"Mae'n ymddangos yn llai tebygol y bydd pobl yn pori drwy wefannau awdurdodau lleol."

Mae Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru yn dangos nad oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad i'r we gartref, ac nad yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio'r we (gan gynnwys teledu clyfar a dyfeisiau llaw), o'i gymharu â 13% o bobl 65-74 oed a 0% o bobl 25-44 oed.

Felly yn ôl yr arolwg nid yw tua 101,200 o bobl dros 75 oed yn defnyddio'r we.

Wth ymateb i awgrym y llywodraeth y byddai "trefniadau amgen addas", dywedodd Heléna Herklots bod hynny yn "ddisodliad niwlog o'r gofyniad mwy penodol i gyhoeddi mewn papurau newydd, ac mae perygl y bydd yn ddewis amgen annigonol".

'Achosi niwed'

Dywedodd Gavin Thompson o gwmni Newsquest, sy'n cyhoeddi nifer o bapurau lleol yng Nghymru, y byddai cael gwared ar y gofyniad i awdurdodau lleol gyhoeddi newidiadau treth gyngor yn eu hardal leol yn cael "canlyniad anfwriadol o achosi niwed i'r diwydiant papurau newydd lleol ac yn ei dro, pa mor wybodus yw'r cyhoedd ac yn y pen draw niweidio democratiaeth yng Nghymru".

Ychwanegodd: "Er bod y Bil hwn yn ymdrin yn benodol â hysbysiadau ar newidiadau i'r dreth gyngor, credwn y bydd y newid hwn yn pennu cyfeiriad teithio a fydd yn y pen draw yn ymestyn i feysydd eraill, megis cynllunio a thrafnidiaeth."

"Mae hysbysiadau cyhoeddus yn darparu ffrwd refeniw bwysig i gyhoeddwyr newyddion lleol, gan helpu argraffiadau print i barhau," meddai.

Dywedodd Steffan Rhys ar ran Reach - sy'n cyhoeddi WalesOnline, North Wales Live, Western Mail, Daily Post, South Wales Echo, South Wales Evening Post ymysg eraill - "os mai bwriad Llywodraeth Cymru yw symud oddi wrth ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus i osod hysbysiadau cyhoeddus statudol mewn papurau newydd, mae perygl y bydd yn achosi difrod dinistriol i ohebu newyddion yng Nghymru ar adeg pan fo angen cymorth ar y diwydiant".

Ond dywedodd Rob Taylor o wefan Wrexham.com wrth y pwyllgor ei fod yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru oherwydd bod y gyfraith bresennol yn "hynafol".

Disgrifiodd y gofynion hysbysiad statudol ehangach fel "cymhorthdal enfawr a warchodir gan y gyfraith" i bapurau newydd.

"Rwy'n credu bod hyn yn wrth-gystadleuol ac yn cyfyngu" ar fusnesau fel Wrexham.com, meddai.