Cyllidebau uwch ond disgwyl i'r dreth gyngor gynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr cyngor wedi rhybuddio bod disgwyl toriadau ar draws y wlad, a hynny er gwaethaf cynnydd posib o hyd at 10% mewn treth cyngor a chyllidebau craidd uwch.
Mae awdurdodau lleol ymhlith y cyrff cyhoeddus prin fydd yn derbyn mwy o arian fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ond fe rybuddiodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod "penderfyniadau anodd" yn wynebu cynghorau Cymru.
Cyngor Casnewydd fydd yn derbyn y cynnydd mwyaf yn eu cyllideb (4.7%), a Gwynedd a Chonwy fydd yn derbyn y cynnydd lleiaf (2%).
Beth sy'n newid?
Bydd yr arian sy'n cael ei roi gan y llywodraeth tuag at gynghorau sir yn cynyddu 3.1% i £5.5bn yn 2024/25, ond mae'r swm y bydd pob awdurdod yn ei dderbyn yn amrywio.
Casnewydd fydd yn gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyllideb (4.7%), gyda Chaerdydd yn ail (4.1%) ac Abertawe yn drydydd (3.8%).
Conwy a Gwynedd fydd yn derbyn y cynnydd lleiaf (2%), gyda Chaerffili a Sir Fynwy yn dilyn (2.3%).
Roedd awdurdodau lleol wedi disgwyl y cynnydd, ond roedd arweinwyr eisoes wedi rhybuddio y gallai arwain at dorri'n ôl ar wasanaethau, colli swyddi a threthi uwch.
Mae arweinwyr cyngor yn dweud bod toriadau eraill gafodd eu cyflwyno gan y llywodraeth i ariannu'r cynnydd yng nghyflogau athrawon yn golygu bod yna fylchau i'w llenwi.
Am beth mae cynghorau'n ei dalu?
Cynghorau sir sy'n gyfrifol am ddarparu nifer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw - gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol a chasglu biniau.
Mae rhwng 20-25% o gyllidebau cynghorau yn cael ei godi drwy'r dreth gyngor, ac mae codi cyfraddau yn un ffordd y mae modd i awdurdodau godi arian mewn cyfnodau anodd.
Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei fod yn croesawu'r cynnydd mewn cyllidebau ond nad oedd yn ddigon i amddiffyn gwasanaethau.
Cyn y cyhoeddiad, dywedodd Mr Morgan, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, bod cynnydd o rhwng 5-10% yn y dreth gyngor yn debygol ar draws y wlad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol i gadw unrhyw gynnydd posib i gyfraddau treth cyngor yn "rhesymol", gan ychwanegu eu bod yn barod i ddefnyddio pwerau i roi cap ar y dreth os oes angen.
Beth arall oedd yng nghyllideb y llywodraeth?
Cafodd manylion cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd werth dros £22bn, eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth.
Bydd siopau, tafarndai a bwytai yn talu trethi busnes uwch yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys toriadau i wariant cyhoeddus a buddsoddiadau yng nghefn gwlad.
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod y toriadau yma'n cael eu gwneud oherwydd y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU.
Ychwanegodd: "Dwi'n cydnabod y pwysau y mae llywodraethau lleol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a'r ffaith bod y galw am wasanaethau ynghyd â chyfraddau chwyddiant yn golygu bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd."
Dadansoddiad Cemlyn Davies, gohebydd gwleidyddol
Y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol oedd prif flaenoriaethau'r gweinidog cyllid yn ei chyllideb ddrafft ddoe.
Ond tra bod cynghorau'n dweud eu bod nhw'n cydnabod yr ymdrech i'w helpu i warchod gwasanaethau, maen nhw hefyd yn gytun nad yw'r cynnydd sydd i ddod i'w cyllidebau yn ddigon.
Dyna pam felly ei bod hi'n anochel y byddwn ni i gyd yn gweld cynnydd i'n bil treth y cyngor - cynnydd o rhwng 5% i 10% yn ôl pob tebyg.
Ond y peryg yw na fydd hynny'n ddigon i gynnal gwasanaethau chwaith.
Yn ôl arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru byddai angen cyflwyno cynnydd o 30%-40% os am osgoi torriadau, a dydy hynny ddim yn fforddiadwy i bobl.
Ac felly, wrth i'r esgid wasgu i bawb, mae cynghorau'n ceisio taro'r cydbwysedd anodd rhwng torri'n ôl a chodi biliau.
Beth yw'r ymateb?
Yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, does dim arian ychwanegol i dalu am y cynnydd arfaethedig yng nghyflogau athrawon, "sy'n golygu bod disgwyl i gynghorau ddod o hyd i'r arian i dalu am un o ymrwymiadau ariannol y llywodraeth".
"Mae'r gair cynnydd yn gamarweiniol yn dydy pan mae angen bron i 11% i gadw fyny hefo chwyddiant a'r pwysau ar wasanaethau, mae'r bwlch o 3.1% i hynny'n anferthol."
Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, bod y setliad yma yn golygu y bydd cynghorau yn derbyn "llai na mae'r ffigwr yn ei awgrymu mewn gwirionedd".
Yn ôl deilydd portffolio cyllid Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ioan Thomas, mae'r setliad yn "rhwbio halen yn y briw".
Dywedodd fod y cyngor wedi "dygymod ers degawd a mwy gyda chyfres o argyfyngau sydd wedi erydu ein gallu fel Cyngor i ddarparu gwasanaethau ar yr union amser pan mae'r costau a'r galw arnom wedi saethu i fyny".
"Ar drothwy'r Nadolig, mae'n hynod anffodus gorfod meddwl am ofyn i bobl Gwynedd gyfrannu mwy trwy'r Dreth Cyngor tra ar yr un pryd yn edrych i dorri'r gwasanaethau maent yn dibynnu arnynt yn ddyddiol."
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, ei fod yn "siomedig" mai setliad Conwy yw'r isaf yng Nghymru.
"Dim ond cynnydd o 2% fydd Conwy yn ei gael, pan fydd ardaloedd eraill yn cael cynnydd o 4.7%, a'r cyfartaledd ar draws Cymru yn 3.1%," meddai.
"Ac er rydym yn croesawu unrhyw gynnydd, ni fydd yn ddigon i gwrdd â'r diffyg ariannol y mae'r cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant, prisiau ynni a thanwydd, a'r cynnydd yn y galw am wasanaethau."
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gyllid ac arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae cynghorau yn wynebu diffyg cyllidol o £432m hyd yn oed wedi cynnydd mewn trethi cyngor a byddwn i gyd yn wynebu penderfyniadau tu hwnt o anodd.
"Yn ogystal â'r ddeialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i ni hefyd ymgysylltu â'n cymunedau ynglŷn â'r penderfyniadau anodd sydd ar y gorwel."
Fe ddisgrifiodd Peredur Owen Griffiths AS, llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol a chyllid, y gyllideb fel un "anghynaladwy" oherwydd y cytundeb ariannu "annheg a roddwyd i Gymru" gan Lundain "wedi'i waethygu gan gamreolaeth ariannol y Llywodraeth Lafur yng Nghymru".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Sam Rowlands AS, ei fod yn "annheg fod rhai cynghorau'n eistedd ar gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd defnyddiadwy ac eraill yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd".
Ychwanegodd: "Mae dyraniad y gyllideb yn gadael cynghorau yn gorfod trosglwyddo'r baich o gyfrifoldeb i gynghorau a thrigolion lleol fydd yn gorfod ysgwyddo baich camreolaeth ariannol Llafur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023