Cost plismona protestio Gwesty Parc y Strade dros £1m

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfanswm plismona protestio yng Ngesty Parc y Strade dros deir gwaith yn fwy na'r disgwyl

Roedd cost plismona protestiadau Gwesty Parc y Strade dros £1m i Heddlu Dyfed-Powys, mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru wedi datgelu.

Fe ddechreuodd y protestiadau tu allan i'r gwesty ger Llanelli fis Gorffennaf y llynedd, wedi i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi cynlluniau i gartrefu dros 200 o geiswyr lloches yno.

Cafodd nifer o brotestwyr eu harestio, gydag Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Ross Evans yn disgrifio'r cyfnod fel un "hynod o heriol" i'r llu.

Ar y pryd, fe ddisgrifiodd Cyngor Sir Caerfyrddin y sefyllfa hefyd fel yr "achos tristaf a mwyaf rhwygol ac anodd yr ydym wedi gorfod delio ag ef".

Ffynhonnell y llun, S4C

Roedd pryderon gwirioneddol am ba mor addas oedd y safle, a hynny gan bobl leol a gwrthbleidiau.

Roedd tân ar safle'r gwesty fis Hydref, gyda'r gwasanaeth tân yn gorfod cau'r safle dros bryderon diogelwch.

Ddyddiau'n unig wedi hynny, fe ddaeth tro pedol gan y Swyddfa Gartref, a gadarnhaodd na fyddai ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu yn y gwesty wedi'r cwbl.

Yn sgil y cyhoeddiad, daeth y protestio i ben, a hynny wedi misoedd o darfu.

Cyfanswm o £1,165,192

Yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law drwy gais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, daeth i'r amlwg fod plismona'r protestiadau wedi costio cyfanswm o £1,165,192.88 i Heddlu Dyfed-Powys.

Yn sgil cadarnhad o'r gost derfynol, dywedodd Mr Llywelyn ei fod wedi "gyrru sawl llythyr i'r ysgrifennydd cartref ar y pryd, yn annog y Swyddfa Gartref i ail-ystyried eu penderfyniad ar frys".

"Roedd tensiwn o amgylch y safle wedi tyfu yn ddyddiol am wythnosau, ac roedd rhaid cael swyddogion a staff i weithio o fewn amgylchedd heriol a oedd yn sathru ar ein perthynas bositif gyda'r gymuned a wnaeth arwain at gostau sylweddol ynghylch plismona'r safle."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Llywelyn ei fod wedi holi'r ysgrifennydd cartref am esboniad clir am y sefyllfa

Yn siarad gyda BBC Cymru ychwanegodd Mr Llywelyn: "Ma' hwnna'n cynnwys arian i dalu staff am overtime ond hefyd y costau hynny o redeg y gweithredu yna roedd y llu yn ymdopi gyda - y protestiadau.

"Ma' hwnna'n swm sylweddol o arian cyhoeddus. Arian fydde wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau o fewn ein cymunedau ar draws ardal Dyfed-Powys yn ei gyfanrwydd.

"O' ni'n brofiadol gan bo' ni wedi delio gyda digwyddiad tebyg iawn yn ardal Penally yn Sir Benfro rhai blynyddoedd yn ôl, felly o'n i yn ymwybodol bod e'n mynd i fod yn gostus.

"Ond unwaith chi'n dechrau rhoi cyfanswm i'r amser mae'r swyddogion yn gwario a threulio yn ymateb i'r digwyddiadau hyn, mae'r gost yn gallu cynyddu yn eithaf sylweddol.

"Ni'n bod yn agored iawn ynglŷn â hyn. Dw'i di bod yn agored iawn i gyhoeddi bo' ni'n chwilio ac yn gofyn i'r Swyddfa Gartref i ymateb ac i dalu yr arian yma a dal yn gofyn y cwestiynau hynny.

"Yn anffodus, dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn rhoi'r atebion, ac yn bendant ynglŷn â'r arian - maen nhw'n bendant iawn ynglŷn â nad oes yna le i ni gael yr arian nôl."

Galw am ddysgu gwersi

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi gwneud cais i hawlio £230,000 mewn costau gan y Swyddfa Gartref, yn dilyn methiant y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches yn Llanelli.

Yn ôl y Parchedig Aled Edwards, a gadeiriodd sesiwn holi ac ateb ar y cynlluniau oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, mae'n rhaid dysgu gwersi.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i chi gael democratiaeth dda i weithio.

"Mae hynna'n golygu bod yr elfennau sy'n medru cyfrannu at y prosiect i gyd yno, yn cyd-drafod gyda'i gilydd. Hwnna dwi'n credu sydd yn lleihau tensiwn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Parchedig Aled Edwards bod yn rhaid "dysgu gwersi"

"Lle 'dach chi'n gwneud hynny mewn modd sy'n dryloyw, mae hynny hefyd o gymorth."

Aeth ymlaen i ddweud: "Falle bod 'na wersi i'w dysgu fan hyn, trafod cynnar, trafod agored, falle'n dwad i ganlyniad fyddai wedi bod yn fwy hyblyg ac yn fwy buddiol yn yr achos yma."

Wrth ymateb i'r gost, dywedodd Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur dros Lanelli, fod cynnig y Torïaid ar gyfer Gwesty Parc y Strade yn "drychineb o'r cychwyn i'r diwedd".

Dywedodd: "Mae'r ffaith iddyn nhw wario dros filiwn o bunnoedd er mwyn plismona rhywbeth hollol ddiangen yn sgandal."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Griffith AS fod yr arian a gafodd ei wario yn "sgandal"

"Fe ddylai, a gallai'r arian hwnnw fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddogion rheng flaen yn yr ardal, gan warchod y strydoedd a'r cymunedau."

Aeth ymlaen i ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau fod Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu digolledu yn llwyr, gan sicrhau "na fydd pobl leol yn gorfod talu am y gyflafan".

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y llywodraeth yn gwneud "cynnydd sylweddol o ran symud ceiswyr lloches allan o westai, sy'n costio £8.2m y diwrnod i drethdalwyr".

Fe ychwanegon nhw eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau fod gan yr heddlu yr offer y maen nhw eu hangen er mwyn cadw'r cyhoedd yn saff, ac wedi cadarnhau setliad ariannol o £18.4bn ar gyfer 2024-24 gan gynnwys hyd at £148m i Heddlu Dyfed-Powys".

Mae Gwesty Parc y Strade yn parhau ar gau.

Pynciau cysylltiedig