Nifer gwrandawyr Radio Cymru yr isaf ar gofnod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd, bod y ffigyrau'n siom

Fe wnaeth nifer gwrandawyr wythnosol BBC Radio Cymru ostwng yn is na 100,000 am y tro cyntaf yn y chwe mis hyd at ddiwedd Rhagfyr.

95,000 oedd cyrhaeddiad wythnosol mwyaf diweddar Radio Cymru yn ôl corff casglu ffigyrau radio RAJAR.

Roedd hynny 7,000 o wrandawyr yn is na'r ffigyrau a gyhoeddwyd dri mis yn flaenorol, a 40,000 yn is na'r un cyfnod yn 2022.

Mae'r data yn gyfuniad o ffigyrau gwrando byw Radio Cymru a Radio Cymru 2.

Ond mae nifer yr oriau roedd cynulleidfa Radio Cymru yn gwrando ar yr orsaf ar gyfartaledd wedi cynyddu i dros 12 awr y gwrandäwr.

Mae hynny dros ddwy awr yn fwy na'r chwe mis hyd at Fedi 2023, ond awr yn llai na'r ffigwr flwyddyn ynghynt.

Disgrifiad o’r llun,

95,000 oedd cyrhaeddiad wythnosol diweddaraf Radio Cymru yn ôl corff casglu ffigyrau radio Rajar

Roedd gostyngiad o 5,000 yn nifer gwrandawyr Radio Wales yn y chwe mis hyd at Ragfyr 2023 - i 316,000 - ond mae'r ffigwr hwnnw 7,000 yn uwch na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

'Cyfrwng pwysig i'n cynulleidfaoedd'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, cytunodd Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd fod y ffigyrau yn siomedig, ond dywedodd hefyd fod pobl yn gwrando "mewn ffyrdd gwahanol".

"Fe gafon ni 2.1m o geisiadau i wrando'n ddigidol yn 2023, mae hynny'n gynnydd o 10% ers 2022.

"Mae nifer y cyfrifon sy'n dod i BBC Sounds wedi cynyddu o 28%, ac wythnos diwethaf, yn nhermau gwrando digidol, oedd yr ail wythnos orau yn hanes Radio Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn cydnabod adroddiad diweddara' RAJAR a byddwn yn dadansoddi'r ffigyrau yn fanwl, fel sy'n digwydd bob amser, gan edrych ar y patrymau gwrando sydd wedi datblygu dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.

"Mae radio yn gyfrwng pwysig i'n cynulleidfaoedd ac mae Radio Cymru yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg, boed hynny wrth wrando'n fyw neu ar alw.

"Mae'n werth nodi mai ffigyrau gwrando byw sydd yn cael eu cofnodi gan RAJAR.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ffyrdd mae ein cynulleidfaoedd yn gwrando yn newid a'r llynedd bu i dros 2.1 miliwn o geisiadau i wrando ar ein cynnwys yn ddigidol ar BBC Sounds."