Ffigyrau gwrando hwyr Radio Cymru 'wedi dyblu' ddiwedd 2022
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y niferoedd sy'n gwrando ar Radio Cymru gyda'r hwyr "ddyblu" yn chwarter olaf y llynedd, yn ôl pennaeth yr orsaf.
Cafodd sawl newid eu cyflwyno i'r amserlen, gyda Caryl Parry Jones yn gyflwynydd newydd i'r slot rhwng 21:00 a hanner nos yn lle Geraint Lloyd, oedd yn cyflwyno rhwng 22:00 a 00:00.
Pan gafodd y newid hwnnw ei gyhoeddi, bu protestio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru fod y ffigyrau'n "galonogol" a'u bod yn "falch o bob cyfle i glywed ymateb y gynulleidfa".
Roedd Dafydd Meredydd, golygydd Radio Cymru, yn siarad ynglŷn â lansio rhaglen newydd ar y celfyddydau o fis Ebrill, gyda'r awdur a'r actor Ffion Dafis yn cyflwyno.
Daeth cyhoeddiad hefyd y bydd Hywel Gwynfryn yn camu'n ôl o gyflwyno ei raglen wythnosol ar y Sul.
Gyda sawl newid i'r amserlen yn cael eu cyhoeddi y llynedd, fe gafodd yr orsaf ei beirniadu gan rai am ddod â rhaglen benodol ar y celfyddydau - Stiwdio - i ben.
Tua'r un adeg, fe gafodd deiseb ei chyflwyno i gadw rhaglen hwyr Geraint Lloyd, gyda rhai yn protestio hefyd.
Dywedodd Radio Cymru ar y pryd eu bod yn "gorfod edrych o'r newydd ar ei hallbwn a sicrhau y gwerth gorau am arian i'n cynulleidfa".
'Ffigyrau hwyr wedi dyblu'
Fore Llun ar Dros Frecwast, dywedodd Mr Meredydd fod ffigyrau gwrando'r orsaf wedi codi'n gyffredinol.
Roedd nifer y gwrandawyr rhwng 21:00 a hanner nos, meddai, "wedi dyblu" yn chwarter olaf y llynedd o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Fe ddechreuodd Caryl gyflwyno ei rhaglen bob nos Lun i nos Iau ym mis Hydref.
"Mi gaethon ni'r ffigyrau ar gyfer chwarter ola' 2022 ryw wythnos neu ddwy yn ôl... ac yn dangos fod nifer y gwrandawyr wedi codi eto felly diolch yn fawr iawn i'r holl wrandawyr," dywedodd.
"Ar gyfartaledd yn 13 awr a hanner yr wythnos i bob gwrandawr - mae hynny'n syfrdanol, mae'n 1.8 miliwn awr o wrando yr wythnos."
Dywedodd bod rhai rhaglenni'n "gwneud yn ardderchog" fel rhaglen Aled Hughes, Post Prynhawn a rhaglen newydd Caryl Parry Jones.
"Llongyfarchiadau i dîm Caryl Parry Jones, mae'n ddyddiau cynnar iawn i'r rhaglen yna ond mae'r [ffigyrau] RAJAR diweddara' yn dangos fod y gynulleidfa rhwng 21:00 a hanner nos wedi dyblu ers y chwarter blaenorol."
'Trafod syniadau yn gyson'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Fel y gwnaeth Dafydd Meredydd ei grybwyll bore heddiw ar raglen Dros Frecwast, mae ffigyrau RAJAR diweddaraf Radio Cymru yn galonogol gyda chynnydd yng nghyrhaeddiad wythnosol yr orsaf ac yn y nifer oriau mae'r gynulleidfa yn gwrando.
"Rydym yn falch o bob cyfle i glywed ymateb y gynulleidfa ac yn trafod syniadau a chynlluniau gyda phartneriaid yn gyson.
"Rydym yn edrych ymlaen at glywed y rhaglen gelfyddydol newydd yn setlo i'r amserlen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022