Mills & Boon yn rhoi gogwydd gariadus i hanes Cymru

  • Cyhoeddwyd
Lissa MorganFfynhonnell y llun, Tina Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lissa Morgan yn ysgrifennu llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi gan Mills & Boon

Mae'r cyhoeddwyr llyfrau rhamant Mills & Boon yn cyhoeddi dros 700 teitl y flwyddyn, ac yn eu plith mae straeon sydd wedi eu lleoli yng Nghymru'r canol oesoedd.

Lissa Morgan yw un o awduron y cyhoeddwr, ac mae hi'n defnyddio ei gradd mewn hanes Cymru i roi gogwydd Gymreig i'r llyfrau rhamant mae hi'n eu hysgrifennu.

"Pan 'nes i ddechrau, nhw oedd yr unig gwmni oedd yn derbyn submissions heb asiant," eglurodd ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru. "O'n i'n gwybod mod i isho sgwennu, felly dyna pam benderfynais i sgwennu iddyn nhw,

"Mae'n anodd sgwennu i Mills & Boon, achos eu bod nhw mor specific yn y math o lyfrau maen nhw'n cynnig a chyhoeddi bob mis. O'n i'n trio am bymtheg mlynedd i sgwennu iddyn nhw, a ches i contract gyda nhw dair blynedd yn ôl."

Llyfrau LissaFfynhonnell y llun, Harlequin Enterprises ULC
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o lyfrau Lissa sydd wedi eu gosod yng Nghymru'r gorffennol

Hanes rhamantaidd

Rhamant yw'r nod, wrth gwrs, ond mae yna gategorïau gwahanol o fewn y toreth o lyfrau sydd yn cael eu cynnig gan Mills & Boon, eglura Lissa:

"Fi'n sgwennu llyfrau hanesyddol, wedi eu gosod yng Nghymru yn y canol oesoedd. Mae 'na ryw fath o elfen o berthynas rywiol rhwng y cymeriadau ond mae darllenwyr modern, yn darllen llyfr rhamant, bron yn disgwyl rhyw elfen o berthynas rywiol, ond dwi ddim yn sgwennu mor graffig â hynny... ddim mor spicy ag eraill!"

Roedd ei llyfr cyntaf - The Welsh Lord's Convenient Bride - wedi ei osod adeg gwrthryfel Madog ap Llywelyn, ac un arall adeg cyfnod yr Arglwydd Rhys. Mae'r llyfr nesa' mae hi'n gweithio arno, meddai, wedi ei leoli dros y ffin yn ardal yr Amwythig, ac yn mynd â'r darllenydd yn ôl i gyfnod Llywelyn Fawr.

A hithau â gradd mewn hanes Cymru, mae Lissa wrth ei bodd yn medru cyfuno'i gwybodaeth hanesyddol â'i chariad tuag at ysgrifennu, ac yn ei dro, rannu hynny â'i darllenwyr. Mae dau o'i llyfrau eisoes wedi eu cyfieithu i'r Eidaleg, ac mae ganddi ffans ledled y byd, yn enwedig dros yr Iwerydd, meddai.

"Dwi wedi cael lot o ymateb da o lefydd fel America, achos mae lot o bobl yn America yn dwli ar Gymru ac yn hoffi darllen am Gymru."

Fersiwn Eidaleg llyfr LissaFfynhonnell y llun, Harlequin Enterprises ULC
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau o lyfrau Lissa wedi eu cyfieithu i'r Eidaleg

Apelio at y genhedlaeth TikTok?

Mae meddylfryd nifer am lyfrau Mills & Boon fel llyfrau hen ffasiwn oedd yn boblogaidd yn y 70au a'r 80au yn anghywir, meddai Lissa. Er fod y cyhoeddwr bellach dros ganrif oed, wrth i'r byd newid, mae'r llyfrau wedi newid a moderneiddio, meddai, ac mae'r cwmni bellach yn ceisio apelio at y to ifanc - sydd o bosib yn draddodiadol ddim yn darllen eu llyfrau - drwy hysbysebu ar blatfformau fel TikTok.

"Mae 'na gyfle i gyflwyno Mills & Boon i bobl sydd ddim wedi clywed am Mills & Boon o'r blaen.

"Mae'n gwmni anferth ac mae wedi newid gyda'r amseroedd. Maen nhw'n dda am gadw llygad ar beth mae pobl yn ei ddarllen, beth yw'r trends a ffasiwn yn y byd cyhoeddi. Maen nhw'n cadw i fyny efo beth mae pobl eisiau darllen, dwi'n credu, sy'n beth positif.

"Mae'n bwysig hysbysebu llyfrau drwy unrhyw fodd rili, achos dwi'm yn siŵr faint o bobl sy'n darllen y dyddiau hyn. Mae 'na gymaint o bethau eraill, pethau fel fideos ar-lein, cerddoriaeth ar-lein... mae popeth yn mynd ar-lein, felly os mai cyhoeddwyr - nid yn unig Mills & Boon - yn gallu defnyddio pethau fel TikTok er mwyn cyrraedd pobl ifanc, mae'n syniad da."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig