'Babanod un oed wedi bod yn yr ysbyty oherwydd llwydni'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Benarth yn dweud bod ei hwyresau ifanc wedi bod yn yr ysbyty gyda heintiau i'r ysgyfaint, oherwydd lleithder a llwydni yn ei chartref.
Dywedodd un o'i chymdogion ei bod hithau wedi gorfod taflu eitemau cartref gan gynnwys cot ei babi oherwydd problem debyg - tra bod un arall methu hyd yn oed â gosod carped yn ei thŷ oherwydd bod dŵr yn gollwng.
Daw hynny wedi i adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach yn yr wythnos rybuddio y gallai'r argyfwng costau byw arwain at fwy o bobl yn datblygu problemau iechyd o ganlyniad i fyw mewn tai anaddas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n croesawu'r adroddiad, ac yn "gwneud yr achos dros ein buddsoddiad pellach mewn tai".
Fe siaradodd BBC Cymru gyda sawl person oedd yn byw yn Pearse Close a Threm Elai, Penarth am broblemau lleithder a llwydni yn eu cartrefi, gan gynnwys Katrina Lapton, 49.
Er iddi brynu dadleithyddion i geisio delio gyda'r broblem, mae ganddi dal lwydni du ar y nenfwd yn ei hystafell ymolchi, ac ystafelloedd gwely ble mae ei hwyresau blwydd oed yn cysgu.
"Roedden nhw i mewn ac allan o'r ysbyty llynedd gyda bronchiolitis," meddai.
"Fi hefyd yn poeni am yr effaith hir dymor arna i, achos mae gen i asthma, a fi wedi bod yn cael lot o boenau a chur pen, yn enwedig wrth ddeffro yn y bore.
"Fi'n poeni'n fawr, a fi jyst eisiau symud achos mae'r broblem jyst am barhau."
Er iddyn nhw godi'r mater gyda chymdeithas dai United Welsh, meddai, dydy gwaith atgyweirio heb ddigwydd eto.
"Os 'dyn ni'n crybwyll problem mae'n cymryd wythnosau i rywun ddod, weithiau i edrych ar rywbeth mae rhywun arall wedi eisoes."
Roedd gan ei chymydog Jayde Cartwright, 34, ddŵr yn gollwng o'i tho a llwydni du yn ei stafell ymolchi a'i hystafell wely, sy'n cael ei rannu gyda'i mab 14 mis, Brogan.
"Dyw e ddim yn dda iddyn nhw anadlu, gorwedd am wyth awr bob nos o dan y llwydni trwchus yna," meddai.
"Roedd rhaid i ni symud cot y babi bob tro roedd darn newydd yn troi lan, dyw e jyst ddim yn saff."
Ychwanegodd: "Dyw un fi ddim mor wael â rhai eraill yn y stryd - mae e ym mhobman."
Ar ôl i'r broblem llwydni ymddangos 15 mis yn ôl, meddai, fe ddaeth gweithwyr o United Welsh i drwsio'r problemau ac ail-baentio ddiwrnod cyn i BBC Cymru ffilmio yn ei chartref.
"Gobeithio bod nhw nawr yn dod mas a sortio problemau pawb, unwaith ac am byth," meddai.
Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwr gweithredol United Welsh dros ddatblygiad, asedau a chynaliadwyedd, Lynn Morgan eu bod nhw'n "ymddiheuro" os oedd rhai o'u trigolion ym Mhenarth yn anhapus.
"Does neb eisiau byw gyda lleithder a llwydni yn eu cartref," meddai.
Hapusrwydd trigolion yn 'hollbwysig'
"Dy'n ni ddim yn bychanu effaith hyn, ac yn gweithio i sicrhau ein bod ni'n delio gydag achosion craidd y materion sydd wedi effeithio ar drigolion ym Mhenarth."
Ychwanegodd bod staff yn "gweithio gydag arbenigwyr" ac yn parhau i wneud gwaith atgyweirio y tu mewn a'r tu allan i'r tai.
"Mae darparu tai ble mae pobl yn teimlo'n hapus i fyw ynddyn nhw yn hollbwysig i ni."
Mae'r rheiny sy'n byw ym Mhenarth ymhlith tua 600,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw mewn tai oer neu llaith, yn ôl Warm This Winter.
Mae'r ymgyrch hefyd yn dweud mai Caerdydd yw'r ddinas fwyaf 'llaith' ym Mhrydain, gyda 42% o'i thrigolion wedi cael problemau gyda lleithder yn eu cartref. , dolen allanol
Ond gyda biliau cynyddol yn golygu y gallai rhai pobl fod yn gyndyn i droi'r gwres ymlaen dros y gaeaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod y broblem ar gynnydd.
"'Dyn ni'n gwybod fod tai o safon mor bwysig ar gyfer bywyd iach, ond mae'r argyfwng costau byw yn gwneud tai'n fwy anfforddiadwy," meddai Manon Roberts, uwch swyddog polisi gydag ICC, ac un o awduron yr adroddiad.
"Mae hyn yn cael effaith eang ar iechyd a lles pobl... mae'r bwlch yna rhwng pobl sy'n gallu fforddio eu tai, a phobl sydd ddim, wedi tyfu."
Gall hynny arwain at sgil effeithiau i iechyd corfforol a meddyliol pobl, yn ôl Ms Roberts.
"Mae'n golygu risg uwch o strôc, rhai mathau o ganser, chi'n fwy tebygol o ddal pethau fel y ffliw, chi'n fwy tebygol o gwympo yn y cartref," meddai.
"Mae hefyd yn gallu effeithio datblygiad plant, datblygiad eu hysgyfaint nhw, a risg uwch o asthma.
"Felly dyw rheina ddim jyst yn bethau sy'n gallu digwydd tra eich bod chi'n byw yn y cartref, mae'n gallu cael effaith ar weddill bywyd plant."
'Storm berffaith'
Dywedodd elusen dai Shelter Cymru fod "storm berffaith" o gostau cynyddol ac argyfwng tai yn golygu bod mwy o bobl wedi cysylltu gyda nhw ynglŷn â phroblemau lleithder yn eu cartrefi.
"Mae beth oedd yn wir yn y cyfnod ar ôl y rhyfel dal yn wir - mae buddsoddi mewn tai da yn fuddsoddiad yn iechyd a lles y boblogaeth," meddai'r prif weithredwr Ruth Power.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy - ac i'r hir dymor - i atal digartrefedd, darparu mwy o dai cymdeithasol, a sicrhau bod pobl yn gallu fforddio i wresogi, gofalu, ac os oes angen, gwneud newidiadau i'w cartrefi er mwyn eu gwneud nhw'n saff.
"Mae adroddiad ICC yn ychwanegu at y dystiolaeth sy'n dangos yr angen i Lywodraeth Cymru i roi taclo digartrefedd, a darparu tai da i bawb yng Nghymru, yn uwch ar eu blaenoriaethau cyllid."
I'r rheiny sy'n rhentu gall problemau gyda lleithder gael eu sortio gan eu landlordiaid, ond i'r rheiny sydd berchen eu tŷ mae'n gyfrifoldeb iddyn nhw eu hunain.
Mae Care and Repair Cymru'n sefydliad sy'n helpu pobl hŷn gyda gwelliannau i'w tai, ac maen nhw hefyd wedi bod yn cael mwy o alwadau yn ymwneud â lleithder a llwydni.
"Mae gennym ni rai o'r stoc dai hynaf yn Ewrop, a gyda hynny fe gewch chi ganran uwch o dai llaith ac oer," meddai'r rheolwr polisi, Faye Patton.
"Rydyn ni'n gweld llawer o gleientiaid wnaeth ddim troi'r gwres ymlaen gaeaf diwethaf, a nawr 'dyn ni'n gweld effaith hynny o ran lleithder a llwydni.
"Os yw'r problemau yma'n mynd heb eu datrys dros gyfnod mor hir o amser, mae pethau sy'n dechrau fel materion bychan, erbyn i ni weld nhw, wedi dod yn llawer mwy."
Cyngor Care and Repair Cymru ar sut i gadw lleithder a llwydni i ffwrdd:
Os allwch chi fforddio i wneud hynny, trowch y gwres ymlaen - bydd hefyd yn atal problemau iechyd eraill all godi o fyw mewn tŷ oer, llaith;
Prynu neu osod dadleithyddion;
Gwyntyllu'r lle yn dda wrth agor ffenestri a sicrhau bod y tŷ'n gallu anadlu;
Os oes modd, sychwch eich dillad tu allan - os yn eu sychu tu mewn, agorwch ffenestri a throi'r gwres ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n croesawu adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n tynnu sylw at effaith tai o safon isel ar iechyd a lles, a gwneud yr achos dros ein buddsoddiad pellach mewn tai.
"Yn 2023-24, byddwn wedi buddsoddi dros £210m mewn atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai, a swm record o £330m mewn tai cymdeithasol.
"Rydyn ni'n gweithio'n galed i gynyddu nifer y tai fforddiadwy ar gyfer y rheiny sydd mewn angen, yn ogystal â rhoi cyngor a chefnogaeth drwy ein cynllun Cymorth i Aros i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda thaliadau morgais uwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022