Toriadau cyllideb 'i effeithio ar bobl fregus fwyaf'

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau
Disgrifiad o’r llun,

Mae ofnau y bydd y toriadau yn amharu ar bob math o wasanaethau cyhoeddus

Mae Aelodau o'r Senedd yn pryderu y bydd toriadau cyllideb yn effeithio fwyaf ar bobl fregus.

Mae pwyllgor o Aelodau'r Senedd wedi dweud y bydd diogelu gwasanaethau rheng flaen yng nghynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru yn dod "ar draul mesurau hirdymor i leihau tlodi".

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru doriadau sylweddol o £600m i'w chyllideb ym mis Rhagfyr er mwyn amddiffyn y GIG a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod arian i wasanaethau rheng flaen, fel gofal cymdeithasol, yn annhebygol o fod yn ddigon "i gadw gwasanaethau ar lefel dderbyniol".

Dywed Llywodraeth Cymru bod rhaid gwneud penderfyniadau "eithriadol o anodd" wrth wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf llwm a phoenus ers dechrau datganoli".

Dywed Pwyllgor Cyllid y Senedd bod ganddynt "bryderon difrifol" y bydd yr arian sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol a gofal cymdeithasol yn ddigonol.

Dywedon nhw fod y pwyllgor yn "pryderu ei bod yn ymddangos nad oes cynllun ar waith i fonitro effaith" y gwariant ychwanegol ar y GIG a Thrafnidiaeth Cymru."

Mae'r cynlluniau i gynyddu'r gwariant ar GIG, yn bryder i'r pwyllgor hefyd, gyda'r adroddiad yn dweud: "heb y cynnydd cyfatebol i'r sector gofal cymdeithasol" gallai galw cynyddol ar ofal cymdeithasol heb fwy o gyllid greu "pwysau sgil-weithredol" i'r GIG.

Effaith 'anghymesur'

Yn ôl Peredur Owen Griffiths AS, o Blaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu, ond rydym yn pryderu am eu honiadau y bydd y Gyllideb hon yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.

"Mae penderfyniadau i beidio ag ymestyn prydau ysgol am ddim a thorri'r gwariant ar ofal plant hefyd yn peri pryder ac yn rhywbeth a fydd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf bregus yng Nghymru.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniadau hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Martha Thomas y sefyllfa fel un "anodd".

Wrth holi rhieni ym Mangor dywedodd sawl un bod cost gofal plant yn achosi straen ariannol.

Dywedodd Martha Thomas o Bontllyfni ei bod hi'n "anodd".

"Ma' gynnon ni feithrinfa agos sy'n gallu cymryd nhw llawn amser a ma'r hyna' yn cael 30 awr [o ofal am ddim], so ma' hynny yn helpu lot," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael 30 awr o ofal plant am ddim yn "help mawr" i Caryl Owen

Fe ddywedodd Caryl Owen bod costau gofal plant yn "anferthol".

Er hyn dywedodd bod y "30 awr am ddim yn help mawr i ni."

I Nathan McCarthy, mae "costau gofal plant yn costio mwy na'n morgais".

"Mae'n mynd at childminder bedair gwaith yr wythnos," dywedodd. "Mae'n costio ffortiwn i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nathan McCarthy bod costau gofal plant yn "costio mwy na'n morgais"

Ym mis Rhagfyr dywedodd swyddogion eu bod yn gobeithio gallu lleihau costau mewn sawl maes - gan gynnwys prydau ysgol am ddim, prentisiaethau, gofal plant ac addysg bellach - oherwydd y galw llai na'r disgwyl neu am fod angen llai o arian.

Er hynny mae'r Pwyllgor Cyllid yn dadlau bod ymestyn y cymhwyster am brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn "rhan bwysig o fynd i'r afael â phroblemau tymor hir tlodi" a byddai ond yn "gost gymharol gymedrol".

Mae'n galw ar y Gweinidog Cyllid i "edrych eto a fyddai modd ymestyn y cynllun".

Yn ogystal, mae'n dweud bod y toriad o £11m i ddarpariaeth gofal plant yn "achos pryder" ac yn galw ar y llywodraeth i "asesu effeithiolrwydd y cynllun presennol a sicrhau bod y system gofal plant yn caniatáu ac yn annog cyflogaeth llawn amser rhieni".

Pwyllgor wedi 'siomi'n fawr'

Fe ddywedodd Peredur Owen Griffiths fod y pwyllgor wedi cael ei "siomi'n fawr" gyda'r "diffyg amser i graffu ar effeithiau rhai o benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf".

Fe ychwanegodd fod "hyn wedi rhwystro ein gallu i ymgysylltu â'r diwydiannau hyn i ddarganfod beth fydd y toriad hwn yn ei olygu i fusnesau ledled Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyma'r sefyllfa ariannol fwyaf llwm a phoenus ers dechrau datganoli.

"Rydym wedi datgan yn glir wrth baratoi ein cyllideb ddrafft bod, gyda'r Gyllideb nawr yn werth £1.3bn yn llai mewn termau real nag wrth ei gosod yn 2021, rhaid cymryd penderfyniadau eithriadol o anodd.

"Byddwn ni yn yr wythnosau nesaf yn ystyried casgliadau'r adroddiad yma ac adroddiadau pwyllgorau craffu eraill cyn cyhoeddi ein cyllideb derfynol ar 27 Chwefror."

Pynciau cysylltiedig