Disgwyl toriadau lu wrth gyhoeddi cyllideb £22bn
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybuddion y bydd toriadau i wasanaethau cyhoeddus wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r gyllideb yn werth dros £22bn ac fe fydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth.
Mae yna addewidion y bydd iechyd, ysgolion a chynghorau yn cael blaenoriaeth ac ofnau y bydd rhai meysydd yn wynebu toriadau.
Dywed gweinidog cyllid Cymru "y bydd nifer o bethau nad yw'n bosib i ni eu gweithredu bellach".
Yn ôl Rebecca Evans bydd yna doriadau i bob adran o'r llywodraeth yn 2024/25.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo'r llywodraeth o wastraffu "miliynau" ar "brosiectau ofer", tra bod Plaid Cymru yn dweud bod "rhaid i bopeth gael ei wneud" i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus.
Dywed swyddogion bod chwyddiant yn effeithio ar yr arian fydd yna i'w wario.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gorfod ariannu cyflogau uwch ym meysydd iechyd ac addysg.
Dywed mai Llywodraeth y DU sydd ar fai am beidio darparu digon o arian i'r coffrau.
Mae tua 80% o arian y llywodraeth yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd a chynghorau.
Mae'r llywodraeth hefyd yn ariannu trenau a bysiau, y celfyddydau, amgueddfeydd, addysg bellach, gwasanaethau amgylcheddol a pheth chwaraeon.
Yn y misoedd diwethaf mae rhai toriadau wedi'u cyflwyno er mwyn cefnogi'r GIG a Thrafnidiaeth Cymru.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Rebecca Evans bod y gyllideb "yn mynd i fod yn un o'r rhai anoddaf i'w pharatoi ers dechrau datganoli".
Bydd gweinidogion, meddai, yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i Gymru sef y GIG a gwasanaethau lleol.
Dywed Ms Evans bod "llywodraeth leol a'r GIG ar frig eu rhestr o flaenoriaethau" ond "mae pob adran wedi gorfod cwtogi rywfaint ar eu cynlluniau gwario".
"Mae yna nifer o bethau nad yw'n bosib i ni eu gwneud rhagor neu nifer o bethau, y gallwn eu gwneud, dros gyfnod hwy o amser."
Dywedodd bod y llywodraeth wedi bod yn edrych ar feysydd lle mae gwariant mewn meysydd na sydd wedi'u datganoli gan "ein bod wedi bod yn ceisio llenwi'r bylchau ond fyddwn ni ddim yn medru llenwi'r bylchau yna rhagor".
'Cyrraedd pen eu tennyn'
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, bod y Trysorlys yn darparu'n hael.
"Fydd yna ddim syndod yng nghyllideb heddiw gan lywodraeth Lafur sy'n methu gyda miliynau yn cael eu gwario ar brosiectau ofer sy'n creu mwy o wleidyddion, chwarae gyda'r cyfansoddiad ac yn arafu'r economi.
"Fe fyddai llywodraeth Geidwadol yn cywiro diffygion Llafur. Fe fydden yn dadwneud y toriadau i GIG Cymru ac ysgolion yng Nghymru gan wario pob ceiniog y mae'r llywodraeth yn ei derbyn ar gyfer iechyd ar iechyd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Mae gwasanaethau rheng flaen wedi cyrraedd pen eu tennyn. Mae safonau byw wedi gostwng ac mae gan Gymru filiwn o bunnau yn llai i'w wario mewn termau real.
"Mae hyn yn ganlyniad o lywodraeth Geidwadol yn chwalu'r economi gan adael pobl sy'n gweithio'n galed i dalu'r bil."
Ond dywedodd hefyd bod Llafur wedi methu â chael trefn ar weithredu'r GIG na Thrafnidiaeth i Gymru gan olygu nad yw'r arian sydd gennym yn cael ei wario ar ddatrys problemau.
"Rhaid i bob dim posib gael ei wneud yn y gyllideb hon i ddiogelu a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus fel bod modd eu harbed yn y tymor hir," meddai.
Dywedodd cyn arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn wrth raglen Dros Frecwast ei bod yn "eitha' balch nad ydw i'n arweinydd cyngor sir erbyn hyn" o glywed "sôn bod 'na 3.1% o gynnydd i lywodraeth leol".
Mae hi'n ofni bod hynny "ddim yn mynd i gyffwrdd yr ochra'", gan fod Cymdeithas Llywodraeth Leol yn dweud Cymru bod angen cynnydd o 11% oherwydd chwyddiant.
Wrth flaenoriaethu ariannu meysydd hanfodol fel gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, dywedodd bod "gwasanaethau llai yn mynd i ddiodde'", a bod un prif weithredwr "yn rhagweld y bydd rhaid torri gwasanaethau yn llwyr".
Dywedodd bod "Rebecca Evans, i fod yn deg, wedi bod yn trio cynnal ariannu" ond bod y cynnydd i gynghorau sir yn y flwyddyn gyfredol wedi "diflannu" oherwydd chwyddiant, gan olygu gorwariant ar gyllidebau eleni cyn y toriadau sydd i ddod.
Un llygedyn o obaith, meddai, yw'r posibilrwydd y daw mwy o arian trwy'r Trysorlys i Gymru maes o law os fydd Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o arian i lywodraeth leol yn Lloegr, ble mae sawl cyngor mewn sefyllfa ariannol argyfyngus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023