Cwmni adeiladu Barrat i brynu Redrow o'r gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni adeiladu tai Barratt Developments wedi cytuno i brynu cwmni Redrow, sydd â'i bencadlys yn Ewloe yn Sir y Fflint.
Mae'r cytundeb rhwng dau gwmni adeiladu tai mwyaf y DU yn werth £2.5bn.
Fe allai'r uno arwain at golli 10% o staff rhwng y ddau gwmni yn sgil ailstrwythuro ond dywed llefarydd ar ran Barratt y bydd safleoedd y ddau gwmni yn aros.
Enw'r cwmni newydd fydd Barratt Redrow a'r bwriad yw cyflymu y broses o godi tai "sydd eu hangen yn ddirfawr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022