Rhoi golau newydd ar arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
goleudai
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy'r Mymbls

Mae goleudai wedi bod yn nodwedd bwysig oddi ar arfordiroedd Cymru ers canrifoedd, yn tywys llongau yn y môr a chadw morwyr yn ddiogel.

Erbyn yr 20fed ganrif roedd y system wedi awtomeiddio - bellach dydyn nhw ddim yn cael eu staffio a'u rheoli gan geidwaid, ond yn hytrach yn cael eu rheoli o bell.

Heddiw mae newid arall yn digwydd i'n goleudai ni. Mae'r golau rydyn ni wedi arfer ei weld yn sgubo'r môr yn cael ei ddisodli gan olau LED sy'n fflachio.

Mae manylion y newidiadau yma i'w gweld ar y rhaglen BBC Wales Live, sydd a gael ar iPlayer.

Disgrifiad o’r llun,

Y golau ar y goleudai, sydd bellach yn LED

Mae'r cyn-geidwad goleudy, Neil Hargreaves, yn dweud bod hi'n drueni gweld y goleuadau'n mynd:

"Rhaid i mi gyfaddef y bydda' i'n drist o weld nhw'n mynd. Roedd pobl sy'n byw ger yr arfordir fel plant yn arfer mynd i gysgu yn gwylio'r beams yn mynd rownd - mae gwylio nhw'n tawelu rhywun.

"Gallwch chi sefyll yno am oriau dim ond yn gwylio'r beams yn mynd dros y creigiau. Wrth eu gwylio nhw'n mynd o gwmpas, roedd popeth yn iawn gyda'r byd."

Ceidwad y Goleudy ydwyf i

Bu Neil yn gweithio ar nifer o oleudai gwahanol yn ystod ei yrfa fel ceidwad am dros 16 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Neil Heagraves yn ei ddyddiau yn gweithio ar y goleudai

"Hon oedd y swydd orau ges i erioed," meddai. "Roeddech chi'n gweld natur yn ei ffurf amrwd, boed y tywydd neu'r bywyd gwyllt. Roedd y machlud a'r wawr yn hollol brydferth."

Treuliodd Neil ddwy flynedd ar oleudy Smalls, 21 milltir o Benmaendewi, Sir Benfro

Yn ôl y sôn, yr adeilad enwog a ysbrydolodd y ffilm Hollywood, The Lighthouse, yn dilyn marwolaeth un o'r ddau geidwad oedd yn gofalu amdano ddechrau'r 19eg ganrif.

Mae Neil yn ei gofio fel adeilad ynysig: ''Doedd gennych chi ddim toiled fflysio, ond beth oedden ni'n ei alw yn 'bucket and chuck it', ac roedd yn rhaid i chi wneud yn siŵr pa ffordd roedd y gwynt yn chwythu wrth fynd allan gael gwared arno," cofiai.

"Doedd dim cawodydd; byddech chi'n cael strip-wash wrth y sinc mewn powlen o ddŵr."

Disgrifiad o’r llun,

Neil Hargreaves heddiw

Gyda dim ond un ystafell wely a gwelyau bync yn gwasanaethu'r tri cheidwad, roedd y sefyllfa fyw yn gyfyng. Ond roedd maint bychain yr adeilad yn golygu bod Neil yn gallu creu perthynasau a chyfeillgarwch agos.

"Roedd yna gyfeillgarwch gwych; roedd yn rhaid, roeddech chi'n byw mor agos."

Roedd adegau pan allai'r swydd fod yn frawychus, meddai Neil.

"Rydw i wedi gweld tonnau'n mynd reit dros ben y goleudy a chael blackout llwyr o bryd i'w gilydd.

"Pan fyddai ton o'r maint hwn yn taro ochr y tŵr, byddech chi'n ei deimlo'n crynu. Ond fe'u cynlluniwyd i gael y gallu yna gan y peirianwyr a'u hadeiladodd yn ôl yn y 1800au, ac maent yn dal i sefyll hyd heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Porthcawl dan donnau anferthol

Trysori'r gorffennol

Yn ôl Trinity House, sy'n berchen ar ac yn rheoli dros 60 o oleudai yn y DU, mae'n rhaid gwneud y newidiadau at ddibenion effeithlonrwydd a diogelwch.

Dywedodd Neil ei fod yn cydnabod fod yn rhaid gwneud newidiadau, ond ei fod yn benderfynol o gadw hanes y strwythurau arfordifol pwysig hyn yng nghof y cyhoedd. Sefydlodd yr ALK (Association of Lighthouse Keepers) i gadw cofnod o "broffesiwn arall a fyddai wedi diflannu fel arall" drwy sefydlu archif yn ogystal ag agor amgueddfa yng Nghastell Hurst.

Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Ynys Lawd, oddi ar Ynys Cybi, Ynys Môn

"Rydyn ni'n cynnal teithiau goleudy ac mae'r archifau rydyn ni wedi'u hadeiladu wedi bod yn amhrisiadwy oherwydd bod ysgolion a myfyrwyr yn dod atom," meddai Neil.

"Ychydig iawn o geidwaid sydd ar ôl, mae'r rhan fwyaf ohonom wedi marw, ond mae 'na selogion sy'n cadw popeth i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Y golau yn Ynys Lawd

Mae Bridget Box yn un o'r gwirfoddolwyr hyn. Hi yw Cadeirydd Cymdeithas Ynys Echni ac mae hefyd yn gynrychiolydd De Cymru ar gyfer y Gymdeithas Ceidwaid Goleudai.

Dywedodd mai'r peth pwysicaf yw cadw goleudai a'u hanes yn fyw: "I'r morwr, mae'r goleudy yn parhau i wneud yr un gwaith, ond mae llai o rannau i'r broses ac mae'n llawer rhatach i'w redeg, sy'n bwysig.

"Mae'n gwneud synnwyr; rydych chi'n cadw'r goleudy, ond yn ei foderneiddio.

"Mae'n gwbl bwysig cadw'r dreftadaeth. Gwarchododd y goleudai yma fywydau, roeddent yn cadw'r llongau'n saff, ac maent yn bwysig iawn i'n cymunedau ni.''

Disgrifiad o’r llun,

Bridget Box, sy'n credu bod hi'n hynod bwysig i gofnodi hanes y goleudai

Mae Bridget hefyd yn tynnu sylw at arwyddocâd goleudai yn yr oes dechnolegol sydd ohoni:

"Mae gan bob llong y dyddiau hyn GPS ond gall cyfrifiaduron fynd o chwith. Bydd cyfrifiadur yn dweud wrthych ble mae'n meddwl ydych chi, ond os gwelwch oleudy rydych chi'n gwybod yn union ble rydych chi.''

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig