Anrhydeddu pensaer goleudai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r pensaer fu'n gyfrifol am rai o oleudai mwyaf enwog Cymru yn cael ei anrhydeddu 150 o flynyddoedd wedi ei farwolaeth.
Mae plac er cof am James Walker wedi ei ddadorchuddio gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru ar oleudy gorllewin Brynbuga ger Casnewydd.
Cafodd y goleudy sydd bellach yn westy ei godi gan James Walker a bu'n cynorthwyo llongau rhwng 1821 a 1922.
Bu Walker hefyd yn gyfrifol am adeiladu Doc Dwyrain Bute Caerdydd ond bu'n feirniadol o gynlluniau Brunel ar gyfer adeiladu Pont Hafren ym 1845.
Y Trydydd Ardalydd Bute
Dywedodd yr hanesydd Stephen K Jones: "Bu 'na ffrae ynghylch dulliau gweithredu Walker a Brunel.
"Bu Brunel yn arloeswr ond roedd Walker yn cael ei ystyried yn bensaer dibynadwy."
Cafodd Walker ei eni yng Nghaeredin ym 1781 ac fe ddaeth yn enwog fel pensaer pan oedd e'n gweithio i Trinity House, y cwmni oedd yn gyfrifol am borthladdoedd a goleudai Prydain.
Ef oedd yn gyfrifol am ddylunio pedwar o'r 32 goleudy gafodd eu hadeiladu yng Nghymru yn y 19eg ganrif, sef goleudai gorllewin Brynbuga ger Casnewydd, goleudy South Bishop ar Ynys Emsger ger Tŷ Ddewi, a goleudai Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Caergybi.
Walker a'i bartner busnes Alfred Burges hefyd wnaeth gynllunio Doc Dwyrain Bute yng Nghaerdydd ym 1855.
Hwn oedd porthladd mwyaf y byd o ran allforio glo erbyn diwedd y ganrif honno.
Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynodd Walker ei gyflogwr, Y Trydydd Ardalydd Bute, i fab ei bartner busnes, William Burges, oedd hefyd yn bensaer.
Cydweithiodd yr Ardalydd â Burges am 25 mlynedd rhwng 1867 a 1892 gan ailgynllunio Castell Caerdydd a Chastell Coch.
Ymhlith gweithiau pwysig eraill Walker oedd Arglawdd yr Afon Tafwys a phontydd Blackfriars a Vauxhall yn Llundain.
Bu farw Walker yn 81 oed ym mis Hydref 1862 ac fe gafodd ei gladdu yng Nghaeredin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011