Arolwg blynyddol: 17,300 yn llai o bobl yn gallu siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae tua 17,300 yn llai o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg na'r flwyddyn flaenorol, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Roedd 29.2% o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg - sy'n cyfateb i tua 891,800 o bobl - yn y flwyddyn hyd at 30 Medi 2023, yn ôl yr arolwg.
Mae hyn 0.6 pwynt canran yn is na'r flwyddyn hyd at 30 Medi 2022, sy'n cyfateb i oddeutu 17,300 yn llai o bobl.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
'Uchelgeisiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Fel llywodraeth, mae gennym nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050.
"I gyrraedd y nod yma, ry'n ni wedi cyflwyno cynlluniau i gynyddu defnydd o'r iaith yn y cartref ac yn yr ysgol, sefydlu Comisiwn arbennig i edrych ar ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, ac yn gweithio ar Fil Addysg Gymraeg.
"Rydyn ni'n parhau i ddefnyddio'r Cyfrifiad ochr yn ochr â ffynonellau data eraill i fonitro'r cynnydd yn erbyn y targed Cymraeg 2050."
Beth ydy'r arolwg blynyddol?
Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o sampl o gyfweliadau ar gyfer yr arolwg o bobl sy'n gweithio.
Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai 4,758 o bobl a atebodd Ydw, a 11,531 Nac Ydw i'r cwestiwn ar y gallu i siarad Cymraeg.
Gan fod yr arolwg blynyddol yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae'n cael ei ystyried fel ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu'n gyffredinol eto ers hynny.
Fodd bynnag, mae'r llywodraeth yn nodi y "dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws".
O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr arolwg blynyddol dros y ffôn yn unig.
Dywed y llywodraeth, "trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn".
Mae'r cyfrifiad yn holiadur statudol ond mae'r arolwg yn wirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwneud gwaith ar y cyd i archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a'r arolwg aelwydydd.
3 i 15 oed
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.6%, 232,100) nag unrhyw grŵp oedran arall.
Dywed y llywodraeth bod "hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019".
Adroddodd 15.0% (456,300) o bobl tair oed neu'n hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.5% (167,700) yn wythnosol a 7.1% (218,000) yn llai aml.
Dywedodd 1.6% (49,400) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.8% yn gallu siarad Cymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022