Uned 5... 30 mlynedd ers y rhaglen gyntaf
- Cyhoeddwyd

"Gwenwch mae'n nos Wener!"
Un o'r dywediadau enwocaf yn hanes teledu Cymraeg? Yn sicr roedd clywed Rhydian Bowen Phillips yn dweud hyn yn wythnosol yn arwydd bod y penwythnos wedi cyrraedd.
I filoedd o blant a phobl ifanc Cymru, roedd gwylio Uned 5 yn ddefod wythnosol, gyda rhaglen yn llawn hwyl, cystadlaethau a gwesteion enwog.
Does ryfedd felly fod Uned 5 wedi bod ar ein sgriniau am 16 o flynyddoedd - a'r rhaglen gyntaf wedi ei darlledu 30 mlynedd yn ôl.
30 mlynedd ers darlledu'r rhaglen gyntaf, cyflwynwyr Uned 5 sy'n hel atgofion
Gwrandewch ar griw Tudur Owen yn hel atgofion gyda rhai o gyflwynwyr Uned 5 ar BBC Radio Cymru
Roedd 21 cyflwynydd i gyd a'r cyfan yn cael ei ffilmio mewn uned ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon, Uned 5. Dros 16 cyfres, cynhyrchwyd 1100 o raglenni cyn i'r rhaglen ddod i ben ym mis Mai 2010.
Dyma hel atgofion am rai o gyflwynwyr y gyfres. Pa un o'r rhain sy'n dod i'ch meddwl pan mae rhywun yn gofyn i chi enwi un o gyflwynwyr Uned 5?

Roedd Gaynor Davies yn un o gyflwynwyr gyntaf y rhaglen nol ym 1994

Garmon Emyr oedd y dyn cyntaf i gyflwyno'r rhaglen ym 1994

Nia Dafydd oedd yn cyd gyflwyno gyda Gaynor a Garmon

Catrin Mai, Bedwyr Rees a Lowri Morgan yn y flwyddyn 2000

Nia Elin, Rhodri Owen a Heledd Cynwal oedd y cyflwynwyr ar ddiwedd yr 1990au

Roedd Gethin Jones yn gyflwynydd rhwng 2000-2005, cyn iddo symud i gyflwyno rhaglen Blue Peter

Roedd Lisa Gwilym yn un o'r cyflwynwyr rhwng 2002-2005 ac yn y cyfnod fe gafodd hyfforddiant i rasio car Mini

Roedd Gareth Owen hefyd yn gyflwynydd rhwng 2002-2005 gyda Gethin Jones a Lisa Gwilym

Mari Lovgreen, Llinos Lee a Rhydian Bowen Phillips, ddaeth yn gyflwynwyr yn 2005

Ar ôl i Uned 5 ddod i ben fe aeth Leni Hatcher ymlaen i gyflwyno rhaglen Y Lle ar S4C

Ar ôl cyflwyno Uned 5 tan 2010 fe aeth Tudur Evans ymlaen i actio cymeriad Iolo ar Rownd a Rownd

Roedd Gwawr Loader yn gyflwynydd y rhaglen rhwng 2009-2010

Roedd Elliw Roberts yn un o gyflwynwyr olaf y rhaglen cyn iddi ddod i ben yn 2010
Hefyd o ddiddordeb: