'Mae angen pencampwr i gefnogi cleifion rhwyll pelfig'

  • Cyhoeddwyd
Vaginal mesh
Disgrifiad o’r llun,

Gall y mewnblaniad gael ei ddefnyddio i gynnal organau

Mae yna alw i Gymru gael comisiynydd newydd i hybu diogelwch cleifion, gan ymgyrchwyr ar ran merched sy'n dioddef ar ôl cael mewnblaniadau rhwyll pelfig.

Roedd yn arfer tan 2018 i osod rhwyll (mesh) blastig yn y fagina i drin cyflyrau fel prolaps ac anymataliaeth (incontinence).

Daw apêl yr ymgyrchwyr wedi i Gomisiynydd Diogelwch Cleifion Lloegr - rôl a ddaeth i rym yn 2022 - gyhoeddi adroddiad yr wythnos hon yn argymell taliadau iawndal i ddioddefwyr dwy sgandal iechyd, gan gynnwys y sgandal rhwyllau fagina.

Dywed Llywodraeth Cymru bod dim cynlluniau ar hyn o bryd i greu rôl debyg yng Nghymru gan eu bod wedi cyflwyno mesurau eraill i wella diogelwch cleifion.

'Mae angen rhywun i sefyll gyda ni'

Mae Jemima Williams, sy'n 63 ac o'r Barri, yn byw gyda phoen cronig ers cael mewnblaniadau rhwyll yn 2002 yn dilyn prolaps.

Bu'n rhaid cael sawl llawdriniaeth ers hynny ac mae meddygon yn dweud bod hi'n rhy beryglus i dynnu rhagor o'r rhwyll ohoni.

Ffynhonnell y llun, Steve Sebastian Jacques
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jemima Williams wedi cofrestru fel person anabl yn sgil effeithiau llawdriniaethau ers 2002

"Mae yna fenywod sydd wedi colli popeth - eu cartrefi, priodasau, plant... mae'r rhain yn anafiadau oes," dywedodd.

Mae hi wedi cofrestru fel person anabl ac yn "dioddef poen amhosib i'w drin a thrafferthion personol".

Dywedodd bod cleifion yng Nghymru angen pencampwr i "sefyll gyda ni a helpu brwydro drosom".

Ychwanegodd: "Dyw'r fenyw gyffredin, sy'n mynd trwy'r holl anafiadau yma, yn dioddef poen erchyll, ddim mewn sefyllfa i fynd ti i frwydro am iawndal i'w hunain. Mae'n amhosib."

'Brwydro' i gael gwrandawiad

Dywed Karen Preater, 47 ac o Sir Ddinbych, ei bod mewn poen cyson wedi mewnblaniad rhwyll 10 mlynedd yn ôl.

Ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn galw am ddilyn esiampl Lloegr a chael comisiynydd diogelwch cleifion yma - mae camau ar droed eisoes i sefydlu rôl gyfatebol yn Yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Karen Preater achos cyfreithiol yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddwy flynedd yn ôl

"Dwi wedi gorfod brwydro i gael gwrandawiad," dywedodd. "Dwi wedi gorfod brwydro yn erbyn y system gwynion... does neb eisiau dweud 'rydan ni wedi gwneud camgymeriad'."

Dywed Ms Preater, a enillodd achos cyfreithiol yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddwy flynedd yn ôl, bod angen pencampwr cleifion fel nad oes yn rhaid i gleifion eraill wynebu'r un frwydr ag un hithau.

"Dwi eisiau gweld gwahaniaeth, yn enwedig wedi fy mhrofiad i o fynd drwy'r system gyfreithiol... oni bai am gefnogaeth teulu a ffrindiau, fyswn i wedi rhoi'r gorau arni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "dim cynlluniau ar hyn o bryd" i benodi comisiynydd diogelwch cleifion yng Nghymru, gan fod sawl mesur arall wedi eu cyflwyno yn ddiweddar".

Mae'r mesurau'n cynnwys sefydlu'r corff Llais, y Ddyletswydd Ansawdd, dolen allanol mewn gofal iechyd, Dyletswydd Gonestrwydd y GIG, dolen allanol a phwerau ehangach i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus - camau sydd, meddai, yn cryfhau eiriolaeth dros gleifion.

Ychwanegodd bod llywodraeth yn cydymdeimlo'n fawr o ran y "dioddefaint a'r niwed" y mae'r mewnblaniadau wedi eu hachosi.

Fe fydd Llywodraeth Cymru, pe bai Llywodraeth y DU yn derbyn argymhellion iawndal Comisiynydd Diogelwch Cleifion Lloegr, "wrth gwrs yn dilyn y trywydd gorau i sicrhau nad yw pobl yng Nghymru'n cael eu trin yn wahanol".