Cwest Phil Morris: Teulu'n ystyried camau cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw ar ôl llawdriniaeth colli pwysau mewn ysbyty preifat yn dweud eu bod yn ystyried camau cyfreithiol.
Daeth crwner i'r casgliad y byddai'n debygol o fod wedi byw petai monitor carbon deuocsid yn gweithio'n iawn yn yr ysbyty ble cafodd y llawdriniaeth.
Bu farw Phil Morris - yn wreiddiol o Gasnewydd - yn dilyn ataliad ar y galon yn Ysbyty Spire St Anthony's yn Cheam, Surrey, bedwar diwrnod wedi'r llawdriniaeth gastrectomi llawes i dynnu rhan o'i stumog ym mis Rhagfyr 2021.
Roedd Mr Morris yn actor, awdur, darlithydd prifysgol, ac yn un o sylfaenwyr y Wales Arts Review, yn rheolwr gyfarwyddwr o 2012 i 2016.
Roedd y teulu wedi symud i dde Llundain o Gasnewydd yn 2016.
Dau ddiwrnod wedi'r llawdriniaeth dechreuodd Mr Morris deimlo poen yn ei stumog.
Canfu'r Uwch Grwner Sarah Ormond-Walshe "hyd yn oed o edrych yn ôl mae'n anodd bod yn siŵr beth oedd yn achosi'r boen yn yr abdomen".
'Cyfle wedi ei golli'
Clywodd y cwest fod y canlyniadau gwaed yn dangos "methiant arennol acíwt", a bod ei gyflwr wedi dirywio'n gyflym o ganlyniad i hynny a hefyd diffyg parodrwydd i dderbyn therapi ocsigen.
Cafodd Mr Morris ei roi yn uned gofal dwys yr ysbyty preifat a phenderfynwyd rhoi pibell yn ei wddf i geisio gwella ei anadlu wrth aros am wely yn ysbyty GIG St George's.
Canfuwyd bod y driniaeth yn "hynod o anodd" ac nad oedd modd sefydlogi llwybr anadlu Mr Morris.
Dywedodd y crwner fod "cyfle wedi ei golli i lwyddo" wrth geisio creu llwybr anadlu newydd oherwydd nad oedd dyfais monitro CO2 yn gweithio'n gywir, a "does neb yn gwirio bod y darn hwn o offer yn gweithio" oherwydd nad oedd yn gyfrifoldeb unrhyw unigolyn i wneud hynny.
Roedd cyfreithwyr yn cynrychioli gwraig Mr Morris wedi gofyn i'r crwner ystyried esgeulustod fel rhan o'i chasgliad.
Fodd bynnag, penderfynodd nad oedd hynny'n briodol.
Mewn casgliad naratif, dywedodd y crwner fod Mr Morris wedi marw ar ôl "dioddef cymhlethdodau triniaeth frys a wnaed i drin cymhlethdodau llawdriniaeth ôl-fariatrig".
Dywedodd Sarah Ormond-Walshe nad oedd angen iddi wneud adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol oherwydd bod Ysbyty Spire St Anthony's wedi gwneud nifer o newidiadau ac wedi trefnu hyfforddiant.
Mynegodd ei chydymdeimlad â theulu Mr Morris.
'Derbyn canfyddiadau'r Crwner'
Yn dilyn y cwest dywedodd llefarydd ar ran Spire Healthcare eu bod yn "cydymdeimlo'n ddiffuant" â theulu Mr Morris.
"Ymddiheurwn am y trallod a'r boen y mae marwolaeth Mr Morris wedi'i achosi ac yn arbennig am y cyfleoedd a gafodd eu colli tra roedd yn ein gofal, fel yr amlygwyd gan y crwner.
"Cyn y cwest fe wnaethom gynnal adolygiad trylwyr o driniaeth Mr Morris ac rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r hyn a ddysgwyd.
"Rydym yn derbyn canfyddiadau'r Crwner a byddwn yn myfyrio ymhellach ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r achos trist hwn.
"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i deulu Mr Morris."
Dywedodd teulu Mr Morris mewn datganiad eu bod yn ystyried camau cyfreithiol a bod ei farwolaeth wedi dilyn "catalog sylfaenol o wallau".
Dywedodd gwraig Mr Morris, Dana: "Roedd Phil yn dad gwych i'n mab Orson, yn ŵr rhyfeddol ac yn ddyn hynod ddeallus, doniol a chariadus.
"Mae'n amlwg o gasgliadau'r crwner y byddai ei farwolaeth wedi gallu cael ei osgoi pe bai'r camau priodol wedi'u cymryd.
"Mae camgymeriadau Spire wedi costio ei fywyd a byddwn ni'n dioddef y canlyniadau hynny am byth.
"Rhaid dysgu gwersi fel nad yw hyn byth yn digwydd i unrhyw deulu arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror