Dynes wedi marw ar ôl tân mewn eiddo yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau tan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo ar Ffordd y Brenin tua 11:00 fore Gwener

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân yn Llandudno fore Gwener.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo ar Ffordd y Brenin tua 11:00 wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad o dân.

Nid yw achos y tân wedi'i gadarnhau eto, ac mae ymchwiliad ar y cyd wedi ei lansio gan y gwasanaeth tân a Heddlu'r Gogledd.

Dywedodd Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod eu "cydymdeimladau dwysaf yn cael eu hestyn i'r teulu a'r ffrindiau ar yr adeg anodd hon".

Pynciau cysylltiedig