Pryder am 'effaith niweidiol' chwiw gofal croen

  • Cyhoeddwyd
Elsa a Martha
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elsa a Martha wedi cychwyn defnyddio nwyddau croen ers gwylio'u hoff dylanadwyr yn eu defnyddio ar TikTol

Gallai'r duedd gynyddol ble mae plant ifanc yn defnyddio cynhyrchion gofal croen sydd i fod ar gyfer oedolion, eu gadael â phroblemau croen, mae meddyg wedi rhybuddio.

Mae rhai plant yn gofyn i'w rhieni am yr eitemau ar ôl eu gweld yn cael eu defnyddio gan eu hoff ddylanwadwyr ar lwyfannau fel YouTube a TikTok.

Ond mae rhai wedi dechrau cefnu ar y cynhyrchion ar ôl dod i wybod am y risgiau.

Mae Elsa, sy'n 13 oed ac yn dod o dde Cymru, yn cadw ei nwyddau gofal croen mewn oergell arbennig yn ei hystafell. Mae'n dweud iddi ddechrau defnyddio nwyddau gofal croen "tua chwe mis yn ôl".

Elsa
Disgrifiad o’r llun,

Ar ol i un cynnyrch adael ei croen hi'n goch, mae Elsa yn ymchwilio mwy i fewn i gofal croen cyn prynu

"Roedd ên dechre mynd yn boblogaidd iawn ar Tiktok ac roedd ffrindie fi yn dechre defnyddio nhw, so nes i ofyn am stwff i pen-blwydd a Nadolig."

Mae hi, fel llawer o ferched ifanc yn ei harddegau, wedi dechrau defnyddio cynnyrch gofal croen. Mae'n arfer sydd wedi gweld plant mor ifanc ag wyth oed eisiau defnyddio cynnyrch sydd i fod i oedolion.

Mae hi'n dweud ei bod yn hoffi edrych ar ôl ei chroen "achos mae'n helpu fi teimlo yn fwy hyderus, a fi'n hoffi mynd i gwely yn teimlo'n refreshed."

Ond ar ôl i un cynnyrch achosi i groen Elsa fynd yn goch, mae hi nawr yn "neud ymchwil mewn iddo fe yn lle jest prynu fe".

Elsa a'i thad Deri
Disgrifiad o’r llun,

Elsa a'i thad Deri

Yn ôl Deri, tad Elsa, doedd e erioed wedi clywed am y nwyddau mae Elsa yn eu defnyddio o'r blaen.

"Pan mae'n dweud 'swn i'n licio ca'l hyn a hyn' sgena i'm syniad, a deud y gwir."

Mae Deri o'r farn bod diddordeb Elsa yng ngofal croen yn "beth da, ond 'di o'm yn cymryd llawr iddo fo fynd yn rhy bell".

"Dwi'n gorfod coelio, dwi'n gorfod trystio bod hi 'di sbïo fewn i'r petha' ma' a bod nhw'n gneud sens."

'Prif bwnc trafod ymhlith ffrindiau'

Roedd Martha, sydd hefyd yn byw yn ne Cymru, yn naw oed pan ddechreuodd ddefnyddio cynnyrch gofal croen ar ôl gwylio fideos ar YouTube a Tiktok.

Mae Martha'n defnyddio nwyddau rhad sy'n addas i'w chroen sensitif. Ond mi roedd 'na gyfnod pan roedd hi eisiau cynnyrch drud fel Drunk Elephant a Glow Recipe.

Mae cynnyrch lliwgar Drunk Elephant ar gael mewn siopau fel Boots a SpaceNK, ac yn amrywio o ran pris o £9.76 i £89.

Martha
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martha wedi bod yn defnyddio'r nwyddau gofal croen ers iddi fod yn naw oed

Dywedodd mai materion harddwch a gofal croen yw un o'r prif bynciau trafod ymhlith ei ffrindiau yn yr ysgol.

"Darllenwch yr ingredients," yw ei chyngor erbyn hyn. "Maen nhw'n bwysig achos gallwch chi ddim ymddiried yn rhai o'r pethau ry'ch chi'n eu gweld."

Mae ei mam, Meinir, "wrth ei bodd" bod Martha nawr yn addysgu ei hun ynghylch y cynnyrch.

"Mae hi hyd yn oed yn dweud wrtha'i i beidio defnyddio rhywbeth oherwydd mae wedi cael ei brofi ar anifeiliaid."

'Trist iawn'

Mae llawer o'r cynnyrch yma yn cynnwys cynhwysion sydd fwy addas i oedolion, fel retinol neu asidau.

Dywedodd Dr Megan Samuel, sy'n ddoctor aesthetig ac yn gweithio gyda chroen: "Ma' pethe fel retinol a'r asidau cryf yma yn gallu cael effaith niweidiol ar groen ifanc.

Dr Megan Samuels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Megan Samuels wedi rhybuddio plant ifanc rhag defnyddio'r cynnyrch yma

"Fi'n bersonol yn meddwl bod e'n drist iawn i weld plant mor ifanc â saith, wyth oed yn becso shwt gymaint am eu croen nhw, a falle ddim yn sylweddoli'r effaith mae hynny yn eu cael ar eu croen nhw."

Mae Megan o'r farn bod llawer o gynnyrch croen "yn ddeniadol iawn a ma'r plant jest yn cael eu lapio mewn gyda'r trends yma".

I rheiny sydd eisiau gofalu am eu croen, mae hi'n argymell defnyddio "cleanser syml a falle moisturiser ar ben hwnna".

Pynciau cysylltiedig