Y Bencampwriaeth: Canlyniadau Caerdydd ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Pêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe wedi sicrhau triphwynt gwerthfawr yn dilyn buddugolaeth oddi cartref yn Hull yn y Bencampwriaeth.

Ond colli oedd hanes Caerdydd mewn gêm gartref siomedig yn erbyn Preston North End.

Hull City 0 - 1 Abertawe

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Liam Cullen yn dathlu sgorio ei bumed gôl o'r tymor ar ôl rhwydo yn gynnar yn y gêm yn erbyn Hull City

Liam Cullen wnaeth sgorio unig gôl y gêm yn Stadiwm MKM i sicrhau buddugoliaeth gyntaf yr Elyrch yn y Bencampwriaeth dan yr hyfforddwr newydd Luke William.

Fe sgoriodd gydag ergydiad droed chwith wedi 11 munud o chwarae wedi cic gornel dda gan Josh Tymon.

Roedd Abertawe yn haeddu i sgorio mwy ond er gwaethaf sawl ymdrech dda ni wnaethon nhw lwyddo i estyn y bwlch rhwng y ddau dîm.

Golyga'r canlyniad eu bod yn codi o'r 17eg i'r 16eg safle yn y tabl.

Caerdydd 0-2 Preston North End

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Preston yn dathlu sgorio yn erbyn Caerdydd

Yn yr hanner cyntaf y daeth holl goliau'r gêm Nghaerdydd hefyd.

Emil Riis (30) a Ben Whiteman (40) wnaeth sgorio i selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Ond roedd yna lygedyn o obaith i'r cefnogwyr cartref Cardiff pan ddaeth Aaron Ramsey i'r maes ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf ers anaf ym mis Medi, er na wnaeth ei bresenoldeb wahaniaeth i'r canlyniad.

Mae Caerdydd wedi llithro i'r 14eg safle ac maen nhw bellach wedi methu ag ennill yr un gêm gartref ers dau fis.